Dr David Gillespie
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Dyfarniad Cymrodoriaeth Ymchwil Iechyd (2018 - 2023)
Teitl y prosiect: Development of an intervention to Optimise use of pre-exposure prophylaxis (PrEP) to prevent HIV-acquisition in at-risk individuals living in Wales [DO-PrEP]
Bywgraffiad
Mae cefndir Dr David Gillespie ym maes Ystadegau Meddygol a chwblhaodd ei ddoethuriaeth yn 2017 ar bwnc methodoleg cydymffurfiad â meddyginiaeth. Nod ei Gymrodoriaeth Ymchwil Iechyd yw mesur, deall, ac optimeiddio’r defnydd o broffylacsis cyn-gysylltiad HIV yng Nghymru. Cyflawnodd David ei Gymrodoriaeth ar sail ran-amser (tri diwrnod yr wythnos dros bum mlynedd), ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi symud ymlaen o fod yn Gymrawd Ymchwil i fod yn Brif Gymrawd Ymchwil trwy ddau ddyrchafiad academaidd llwyddiannus, ar ôl cwblhau secondiad tair blynedd gyda grŵp heintiau ym Mhrifysgol Rhydychen, ac mae bellach yn Gyfarwyddwr Treialon Heintiau, Llid ac Imiwnedd yn y Ganolfan Treialon Ymchwil (Prifysgol Caerdydd).
Mae diddordebau ymchwil David yn canolbwyntio ar
i.) gwella’r ffyrdd y mae data cydymffurfiad â meddyginiaeth yn cael eu mesur, eu modelu, a’u disgrifio mewn treialon a
ii.) cynllunio a chynnal treialon effeithlon yn gwerthuso’r defnydd doeth o feddyginiaethau ym maes clefydau heintus.