tîm llawfeddygaeth ar ffurf clun a phenglin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Treial clinigol llawdriniaeth y glun a’r pen-glin wedi’i alluogi gan robot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

29 Mawrth

Mae ymchwilwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cyflenwi’r treial clinigol cyntaf yng Nghymru sy’n defnyddio robotiaid arloesol y mae llawfeddygon yn eu harwain i wneud llawdriniaethau i osod cluniau a phengliniau newydd.

Mae’r prosiect yn un o nifer o brosiectau ymchwil a datblygu sy’n canolbwyntio ar y claf, dan arweiniad Sefydliad TriTech Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’i is-adran Ymchwil a Datblygu, sydd wedi’i ariannu’n rhannol trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae llawdriniaeth gosod cymalau newydd yn un o’r llawdriniaethau mwyaf cyffredin y mae’r GIG yn eu perfformio. Nod y treial yw penderfynu a yw deilliannau’n well i gleifion sy’n cael cymalau newydd pan ddefnyddir robotiaid.

Mewn llawdriniaeth i osod cluniau a phengliniau newydd gyda chymorth robotiaid, mae braich robotig yn helpu i baratoi’r asgwrn ac i fewnosod y cydrannau yn unol â chynllun tri-dimensiwn sydd wedi’i raglennu ymlaen llaw. Y gred yw bod defnyddio robot i berfformio’r llawdriniaeth yn galluogi technegau llawfeddygol mwy manwl gywir a chyson, a allai helpu i leihau amrywiad ac, o bosibl, atal deilliannau gwael a chymhlethdodau a allai alw am lawdriniaeth ychwanegol.

Mae’r treial clinigol wedi’i ariannu trwy’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal ac wedi’i gyflenwi rhwng Ysgol Feddygol Warwig ym Mhrifysgol Warwig, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Athrofaol Coventry a Warwig (UHCW) a’r Ysbyty Orthopaedig  Brenhinol (ROH) yn Birmingham, mewn partneriaeth â BIP Hywel Dda.

Meddai’r Athro Peter Cnudde, Llawfeddyg Orthopaedig Ymgynghorol a derbyniwr Dyfarniad Amser Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Mae llawdriniaeth â chymorth robotiaid yn cael ei defnyddio’n llwyddiannus iawn mewn llawer o weithdrefnau ac mae’n gallu dod â nifer o fanteision o’i chymharu â llawdriniaeth safonol. Mae’n gyflawniad mawr i’r tîm fod yn rheng flaen astudiaeth aml-ganolfan o’r radd flaenaf fel hon, ac rydyn ni’n falch iawn o allu rhoi cychwyn i’r treial clinigol.

Bydd ychwanegu llawdriniaeth â chymorth robotiaid at y ddarpariaeth lawfeddygol sydd ar gael yn BIP Hywel Dda, yn fy marn i, o fudd go iawn i’n cleifion, a dwi’n edrych ymlaen at arwain y darn pwysig hwn o waith.”

Meddai’r Athro Chris Hopkins, Pennaeth Arloesi a Sefydliad TriTech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

Rydyn ni’n falch bod ein llawfeddygon yn BIP Hywel Dda yn chwarae rhan arweiniol yn y treial hanfodol hwn. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y rhaglen yn arwain at ddeilliannau gwell i gleifion ac yn helpu â mynd i’r afael â phwysau yn ein system a’n rhestrau aros am ofal cynlluniedig. Bydd darganfyddiadau’r ymchwil, yn bendant, yn helpu llawfeddygon orthopaedig ar draws ein bwrdd iechyd ac ar hyd a lled y byd i ddeall y dechnoleg a’r offer mwyaf effeithiol ar gyfer perfformio llawdriniaethau gosod cluniau a phengliniau newydd a chyflenwi gofal cleifion rhagorol.”

Yn ogystal â chofnodi deilliannau clinigol a deilliannau cleifion, bydd yr astudiaeth yn cynnwys dadansoddiad trylwyr o’r economi iechyd i roi gwybod i’r GIG a ddylid mabwysiadu’r elfen hon o dechnoleg â chymorth robotiaid yn eang.

Ychwanegodd yr Athro Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Phartneriaethau Prifysgol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

Yn BIP Hywel Dda, rydyn ni’n ymfalchïo mewn galluogi ein staff i ymgysylltu ag ymchwil a datblygu sydd, yn ogystal â diwallu anghenion ein poblogaeth gyfredol, hefyd yn paratoi’r ffordd ar gyfer cleifion yn y dyfodol. Rydyn ni’n croesawu’r bartneriaeth ag Ysgol Feddygol Warwig ym Mhrifysgol Warwig, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Athrofaol Coventry a Warwig a’r Ysbyty Orthopaedig Brenhinol (ROH) yn Birmingham, a’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddylanwadu ar ddatblygiadau orthopaedig arloesol yn y dyfodol trwy ein darganfyddiadau.”

Yn y llun (o’r chwith i’r dde) mae uwch brif nyrs, Jeremy Thomas, prif nyrs iau, Anthony Macabitis, uwch brif nyrs, Lorna Amarillo, prif nyrs iau, Charlie Ledbury, prif nyrs iau, Gary Peters a nyrs staff, Glaiza Juanites