Gofal Cymdeithasol Cymru: Enwebwch eich Sêr Gofal
Mae'r chwilio ymlaen am weithwyr gofal yng Nghymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yn yr amgylchiadau anoddaf gyda lansiad Sêr Gofal 2021.
Mae cyflogwyr, cydweithwyr a'r cyhoedd yn cael eu hannog i enwebu gweithwyr o ofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar ar draws pedwar categori eang.
Wedi'i drefnu gan Ofal Cymdeithasol Cymru a'i gefnogi gan feirniaid o sefydliadau partner, mae Sêr Gofal yn chwilio am weithwyr gofal sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gadarnhaol i fywydau pobl ac wedi helpu unigolion i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw hyd yn oed yng nghanol pandemig.
Gallwch enwebu'ch Sêr Gofal o 3 Mehefin tan 5pm ar 23 Mehefin trwy lenwi'r ffurflen enwebu Sêr Gofal. Bydd y beirniadu yn digwydd ar ddechrau mis Gorffennaf.
Y pedwar categori ar gyfer enwebiadau yw:
- Gwasanaethau i oedolion
- Gwasanaethau i bobl hŷn
- Gwasanaethau i blant
- Gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.