Mynychwyr yn trafod mewn gweithdy

Gofal Cymdeithasol Cymru yn lansio strategaeth gofal cymdeithasol newydd

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi dod â phartneriaid a rhanddeiliaid ynghyd i greu strategaeth ymchwil, arloesi a gwella newydd ar gyfer y sector gofal cymdeithasol o’r enw Ymlaen.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru am greu diwylliant lle mae tystiolaeth yn ganolog i ddarpariaeth ac yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ar bob lefel o ofal cymdeithasol, ac maent am glywed eich barn am y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yn hyn.

Sut i ymateb

Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad drwy:

Os oes angen copi o’r strategaeth hon arnoch mewn fformat gwahanol, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar ymlaen@gofalcymdeithasol.cymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau am hanner dydd ar 11 Rhagfyr 2023