Gofal Cymdeithasol Cymru yn darparu data ar gyfer astudiaeth newydd ar Cofid-19
22 Mawrth
Yr astudiaeth hon fydd y gyntaf i archwilio’r peryglon a ddaw yn sgil COFID-19 i weithwyr gofal sydd yn cefnogi pobl yn eu cartrefi yng Nghymru. Gwnaed hyn yn bosibl oherwydd ansawdd a maint y data sydd ym meddiant Gofal Cymdeithasol Cymru ar y gweithlu cofrestredig.
Mae rhannu’r data hwn gyda banc data a gydnabyddir yn rhyngwladol sef SAIL (Secure Anonymised Information Linkage) ac a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gam pwysig fydd o fantais nid yn unig i weithlu gofal cymdeithasol ond i iechyd y cyhoedd yn gyffredinol yng Nghymru.
Credir bod y pandemig wedi cael effaith difrifol ar iechyd 20,000 o weithwyr sydd yn cynnig gofal personol a chefnogaeth i’r henoed neu bobl gyda chyflyrau difrifol yn eu cartrefi eu hunain.
Bydd yr astudiaeth, dan y teitl OSCAR (Outcomes for Social Carers: an Analysis using Routine data) ac a ariennir gan Ymchwil ac Arloesedd Prydain, yn asesu iechyd gweithwyr ym meysydd gofal cyhoeddus a gofal preifat, ac yn cynnwys haint COFID-19, iechyd meddwl a chlefydau eraill. Bydd yr ymchwilwyr yn cyfuno data iechyd dydd i ddydd a chyfweliadau gyda gweithwyr gofal sydd yn cefnogi pobl yn eu cartrefi er mwyn llunio darlun llawn o’r modd y mae’r gweithwyr hyn wedi ymdopi yn ystod y pandemig.
Dros gyfnod o 18 mis, bydd yr astudiaeth yn meintioli achosion o COFID-19 (dan amheuaeth neu wedi eu cadarnhau) a’i effaith ar iechyd, gan gynnwys marwolaeth. Bydd hefyd yn cymharu tueddiadau mewn iechyd meddwl a chlefydau anadlol eraill cyn y pandemig ac yn ei ddilyn.
Dyma eiriau Lisa Trigg, Cyfarwyddwraig Gynorthwyol Ymchwil, Data a Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol Cymru: “Ein prif ysgogiad wrth rannu data gyda Banc Data SAIL yw cael deall sut i ddarparu’r gefnogaeth orau ar gyfer ein gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn hynod falch bod yr astudiaeth gyntaf hon o Brifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth o iechyd a lles gweithwyr gofal cartref yn ystod y pandemig. Mae’r grŵp hwn o weithwyr wedi bod yn ganolog i gynnal ein cymunedau dros y cyfnod hwn, ond mae hefyd wedi dioddef o’i achos. Dylai dealltwriaeth well am wir effeithiau Cofid-19 ar weithwyr ym mhob rhan o Gymru ein galluogi i adnabod a chynllunio ffyrdd o ddarparu gwell cefnogaeth”.
Caiff deg ar hugain o weithwyr gofal eu cyfweld ynghylch ei profiadau, gan gynnwys cwestiynau ynghylch eu hoffer diogelu penodol ac unrhyw bryderon yn ymwneud ag arferion gwaith neu’r hyn y disgwylir iddynt ei wneud. Gobeithio y bydd yr astudiaeth yn darparu rhai canfyddiadau cyflym fydd o gymorth i lunio penderfyniadau ar iechyd cyhoeddus mwy diogel a chefnogaeth ychwanegol i staff yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o’r DU. Y gobaith yw creu model fydd yn dangos pa rannau o’n gweithlu sydd fwyaf tebygol o fod mewn perygl oherwydd Cofid-19 trwy ddadansoddi ffactorau megis oed, ethnigrwydd, cyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes a ffactorau economaidd gymdeithasol a demograffig eraill.
Mae banc data SAIL eisoes yn dal data o wahanol fathau ynghylch poblogaeth Cymru, ac ar y funud yn dal dros 10 biliwn o gofnodion yn ymwneud â’r boblogaeth, yn cynnwys cofnodion meddygon teulu, cofnodion derbyn i ysbytai a data addysg. Yn awr, mae’r gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig hefyd yn rhan o’r banc data anferth hwn.
Bwriad Banc Data SAIL yw darparu data poblogaeth dienw i hyrwyddo prosiectau ymchwil hanfodol fydd yn arwain at wella gofal cleifion, yn sicrhau budd i’r cyhoedd a gwelliannau mewn iechyd, gofal a llesiant. Bydd y gyfres ddata gyfoethog hon yn cefnogi ymchwilwyr i gyflawni astudiaethau pwysig fydd yn ein galluogi i ddysgu gwersi a chyrraedd gwell penderfyniadau ar faterion hanfodol.
Caiff yr astudiaeth ei harwain gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe