Care home resident taking part in exercise

Gofal Cymdeithasol – Cynllun Efrydiaethau PhD yn awr ar agor

22 Ionawr

Mae'n bleser gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyhoeddi bod rownd 2023 Cynllun Efrydiaethau PhD Gofal Cymdeithasol bellach wedi agor.

Mae’r gwobrau hyn yn ariannu unigolion dawnus i ymgymryd ag ymchwil ac astudiaeth sy’n arwain at PhD a chefnogi meithrin capasiti mewn ymchwil gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Dylai prosiectau PhD a ariennir drwy’r gwobrau hyn ddarparu tystiolaeth gadarn sy’n mynd i’r afael ag anghenion gofal cymdeithasol defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a’r boblogaeth ehangach, a/neu drefnu a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol effeithlon ac effeithiol yng Nghymru.

Er y croesewir ceisiadau o bob rhan o ymchwil gofal cymdeithasol, ar gyfer galwad 2023, bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn croesawu’n arbennig geisiadau:

  • sy’n cyd-fynd ag elfennau gofal cymdeithasol yr amcanion llesiant yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2021-2026; a/neu
  • yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol a nodir yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach;
  • yn mynd i’r afael â materion iechyd a gofal cymdeithasol sy’n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yng nghyd-destun y Rhaglen Lywodraethu neu Gymru Iachach.

Rhaid i geisiadau ddod oddi wrth y goruchwyliwr arfaethedig, a ddiffinnir fel yr ymgeisydd ar gyfer y cynllun hwn. Nid oes angen i fyfyriwr fod wedi'i adnabod yn ystod y cam ymgeisio.

Agorodd y cyfnod ymgeisio ddydd Iau 12 Ionawr 2023 a bydd yn cau am 16:00 ddydd Iau 9 Mawrth 2023.

Gallwch ganfod mwy ar ein tudalennau cynlluniau ariannu