Gorchuddion wyneb i leihau trosglwyddiad SARS-CoV-2

Masgiau wyneb i leihau trosglwyddiad COVID-19: Adolygiad cyflym

Mae defnynnau y mae person heintus yn eu hanadlu allan yn gallu trosglwyddo COVID-19. Mae’n bosibl bod gan fasgiau wyneb rôl mewn lleihau trosglwyddiad y clefyd trwy ddal defnynnau a’u hatal rhag cyrraedd pobl eraill a/ neu drwy atal y sawl sy’n gwisgo masg wyneb rhag anadlu’r defnynnau sydd yn yr awyr i mewn.

Mae’r adolygiad hwn yn edrych ar y dystiolaeth sy’n dangos a yw masgiau wyneb yn lleihau trosglwyddiad COVID yn y gymuned ai peidio, ac a yw rhai masgiau yn well nag eraill.

Mae’r dystiolaeth dal yn gyfyngedig ar hyn o bryd. Mae ansawdd astudiaethau’n isel. Mae ffactorau eraill yn gallu sgiwio canlyniadau astudiaethau. Mae’n bosibl bod pobl sy’n gwisgo masgiau’n newid eu hymddygiad mewn ffyrdd eraill sy’n effeithio ar y tebygolrwydd yn byddan nhw’n dal COVID. Nid oes yna unrhyw dystiolaeth benodol ar gael ynglŷn â masgiau wyneb i atal trosglwyddiad COVID mewn amgylcheddau penodol, fel ysgolion a thrafnidiaeth gyhoeddus, neu ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Nid oes yna unrhyw dystiolaeth ychwaith o effaith plant a phobl ifanc yn gwisgo masgiau. Nid yw’r dystiolaeth yn dangos a ddaw unrhyw leihad mewn trosglwyddiad o ganlyniad i’r gwisgwr yn cael ei ddiogelu rhag anadlu defnynnau yn yr awyr i mewn neu o ganlyniad i ddiogelu pawb arall rhag defnynnau y mae’r sawl sy’n gwisgo’r masg yn eu hanadlu allan.

Ydy masgiau wyneb yn gwneud gwahaniaeth?

  • Mae’n bosibl bod masgiau wyneb o ryw fudd wrth atal trosglwyddiad COVID-19 ond mae astudiaethau o ansawdd uwch yn awgrymu bod y budd hwn yn gymharol fach.
  • Mae masgiau wyneb a ddefnyddir yn gyffredin yn hidlo defnynnau i ryw raddau. Mae’n debyg bod masgiau meddygol yn gwneud hyn yn well na masgiau ffabrig, er bod rhai astudiaethau’n awgrymu eu bod yr un fath.

Ydy gwisgo masgiau’n achosi unrhyw effeithiau negyddol?

  • Nid oedd yna unrhyw awgrym bod gwisgo masgiau wyneb yn achosi niwed difrifol.
  • Mae rhai pobl yn dweud eu bod yn anghyfforddus neu’n gwneud iddyn nhw deimlo’i bod yn anodd anadlu. 
  • Mae yna bryderon ynglŷn ag effaith cymaint o gynhyrchion sydd ddim yn pydru ar yr amgylchedd.

Goblygiadau i bolisi ac arfer

  • Fe allai gorchuddion wyneb chwarae rhan mewn atal trosglwyddiad COVID-19 dros gyfnodau nesaf y pandemig.
  • Mae masgiau wyneb fel rheol yn rhan o becyn o fesurau (golchi dwylo, cadw pellter, awyru ac ati) ac mae mwyafrif y dystiolaeth o fewn y cyd-destun hwn. Mae’n bosibl na fydd jest gwisgo masg, heb unrhyw fesurau atal eraill, yn effeithiol.
  • Mae astudiaethau o ansawdd uwch yn awgrymu y gallai masgiau wyneb gael effaith weddol fach. 
  • Mae’n bosibl y byddai o fudd darparu negeseuon iechyd cyhoeddus ynglŷn â nodweddion masgiau wyneb sy’n fwy effeithiol i bob golwg (masgiau meddygol yn hytrach na rhai ffabrig) ac ynglŷn â sut i’w defnyddio’n effeithiol trwy eu gwisgo dros y trwyn a’r geg.
  • Nid oes yna unrhyw dystiolaeth eglur i awgrymu y dylid esemptio poblogaethau cleifion penodol fel mater o drefn, gan gynnwys pobl â chyflyrau meddygol a phlant, rhag gwisgo masgiau wyneb.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00007