Julie Hepburn

Sut mae Julie, goroeswr canser y coluddyn dewr, yn helpu i symud ymchwil yn ei flaen

Yn dilyn triniaeth lwyddiannus ar gyfer canser y coluddyn cam tri 10 mlynedd yn ôl, siaradodd Julie Hepburn, aelod o gymuned Cynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, am sut mae hi'n parhau i gadw ei hun yn brysur gyda gwaith cynnwys y cyhoedd i helpu i ddatblygu ymchwil i'r cyflwr.

Rhannodd Julie, sydd hefyd yn Bartner Ymchwil Lleyg Arweiniol yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru, ei thaith o ran cyfranogiad cleifion a'r cyhoedd, a dywedodd ei bod yn rhoi 'llawer iawn' o foddhad iddi.

Dywedodd Julie ei bod yn mwynhau gwneud gwaith ymchwil cynnwys y cyhoedd am sawl rheswm. Wrth siarad yng Nghynhadledd Canolfan Ymchwil Canser Cymru, dywedodd: "Roeddwn i eisiau gwella pethau ar gyfer pobl sydd â chanser y coluddyn a chanserau eraill. Roeddwn i newydd ymddeol pan es i’n sâl gyda chanser y coluddyn, felly penderfynais fy mod eisiau gwneud rhywbeth defnyddiol gyda fy ymddeoliad.

"Cyn gynted ag y gorffennais y driniaeth, fe wnes i ddarganfod mwy am gynnwys y cyhoedd. Mae gen i ddiddordeb mewn gwyddoniaeth feddygol ac roeddwn i'n meddwl y byddai hyn yn rhywbeth diddorol iawn i gymryd rhan ynddo.

"Rydw i wedi gwneud pob math o waith gydag ymchwilwyr fel edrych ar grynodebau lleyg, eu helpu gyda'u cynigion, siarad mewn digwyddiadau a chynadleddau.

"Rwy'n cael llawer o foddhad o helpu ar yr holl ymchwil a'i wneud yn berthnasol i'r cleifion. Rwy'n cwrdd â llawer o bobl ddiddorol ac rwy'n teimlo fy mod i'n cyfrannu at symud ymchwil yn ei flaen. Byddaf yn parhau i wneud hyn cyhyd ag y gallaf."

Cofrestrwch i'n bwletin i dderbyn i'ch mewnflwch cyfleoedd wythnosol i gefnogi ymchwil yng Nghymru.

Gwyliwch fideo Julie a dysgwch fwy am ei thaith cynnwys y cyhoedd.