Goroeswr canser y brostad yn ei dalu ymlaen trwy ymchwil
Mae dros 300,000 o bobl wedi cofrestru i gymryd rhan mewn ymchwil yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae Be Part of Research yn wasanaeth ledled y DU sy'n helpu pobl i ddod o hyd i astudiaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd a gofal cymdeithasol a chymryd rhan ynddynt. Fel rhan o ddathliad o'r holl bobl sy'n cymryd rhan mewn ymchwil, hoffem eich cyflwyno i actor o Gymru a benderfynodd gymryd rhan mewn astudiaeth arloesol i frwydro yn erbyn ail-ddigwydd canser y brostad ar ôl cael ei gymell gan brofiadau personol.
Cymerodd Arnold Jeffrey Phillips, 76, o Gastell-nedd, ran yn yr astudiaeth ymchwil Ychwanegu Asbrin sy'n ymchwilio i weld a all cymryd dos o asbrin bob dydd atal canser rhag dychwelyd ar ôl triniaeth.
Cafodd Arnold ddiagnosis o ganser y brostad yn 2015 ac erbyn gwanwyn 2016 cafodd lawdriniaeth a dechreuodd ar astudiaeth ymchwil Ychwanegu Asbrin. Roedd Arnold bob amser wedi gweld budd ymchwil a dod o hyd i driniaethau newydd, yn enwedig ar ôl i'w efail farw o AIDS ym 1994.
Meddai Arnold:
"Roedd fel petai ran ohonof wedi marw gyda fy mrawd ac fe wnaeth y boen yna i mi sylweddoli pa mor werthfawr yw bywyd. Dyna un rheswm mawr pam na wnes i ddim oedi cyn bod yn rhan o'r astudiaeth.
"Mae pawb yn haeddu’r cyfle i gael bywyd gwell ac iachach. Os gallaf fod yn rhan fach o'r gobaith hwnnw, mae'n werth chweil."
Pam wnaethoch chi ddewis cymryd rhan yn yr astudiaeth?
Gan ddewis llawdriniaeth, tyfodd gwerthfawrogiad Arnold o'r maes meddygol a'r ymchwil wrth iddo gwrdd â'i dîm wroleg.
"Roedden nhw'n bobl arbennig iawn - yn hyfryd ond yn syml. Fe ofynnon nhw i mi ar ôl fy adferiad os oeddwn i eisiau ymuno â'r astudiaeth gan fy mod yn cwrdd â'r meini prawf."
"Yn yr achos hwn, roedden nhw'n ymchwilio i weld a oedd ffordd i ddefnyddio'r cyffuriau symlaf a rhataf i naill ai leihau neu gael gwared ar y risg o ganser yn dychwelyd, felly allwn i ddim dweud na."
"Roeddwn i am roi rhywbeth yn ôl. Roeddwn i eisiau helpu pobl, mewn ffordd fach iawn."
Beth oedd eich profiad o gymryd rhan yn yr astudiaeth?
Am bum mlynedd, cymerodd Arnold dabled asbrin dyddiol a mynychodd archwiliadau rheolaidd.
"Mae wedi dod yn rhan o fy nhrefn i."
"Roeddwn i'n teimlo fy mod i'n cael gofal. Cefais wiriadau rhithwir neu bersonol gyda'r tîm bob pedwar mis."
Beth fyddech chi'n dweud wrth bobl eraill am gymryd rhan mewn ymchwil?
Pwysleisiodd Arnold bwysigrwydd cymryd rhan mewn ymchwil, nid yn unig er budd personol ond fel cyfraniad at iechyd cymdeithas yn y dyfodol. Mae'n cefnogi ymchwil oherwydd ei fod yn credu y gall achub bywydau.
"Mae ymchwil yn hanfodol. Byddwn yn argymell cymryd rhan mewn astudiaeth i unrhyw un oherwydd ein bod yn buddsoddi yn iechyd pobl yn y dyfodol ac mae'n fraint gallu gwneud hynny."
Lle fydden ni heb ymchwil?
Mae stori Arnold yn tynnu sylw at botensial cymryd rhan mewn astudiaeth y tu hwnt i'r effaith unigol. Mae ei brofiad yn dangos pwysigrwydd ehangach ymchwil wrth lunio iechyd a gofal cymdeithasol. O'r datblygiadau arloesol a ddilynodd farwolaeth ei frawd i'w daith ei hun gyda chanser y brostad, mae Arnold yn dyst i bŵer ymchwil wrth wella ac achub bywydau.
Cofrestrwch i ymuno â Be Part of Research i ddysgu am yr amrywiaeth o gyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol neu gymorth yn eich ardal.