Grantiau Ymchwil BACP – yn agored ar gyfer ceisiadau
Mae’r Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Brydeinig (BACP) wedi lansio grantiau ymchwil yn ddiweddar i gefnogi ‘ymchwil gydweithredol’ a ‘dadansoddiad data eilaidd’ ym maes cwnsela, seicotherapi a/neu goetsio.
Grantiau ymchwil gydweithredol: gwerth hyd at £50,000 yr un gyda’r bwriad o gefnogi ymchwil a wneir gan grwpiau neu rwydweithiau ymchwil newydd neu rai sy’n bodoli eisoes
Grantiau dadansoddi data eilaidd: gwerth hyd at £30,000 yr un gyda’r bwriad o gefnogi ymchwil a wneir ar setiau data perthnasol sy’n bodoli eisoes.
Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer y ddau grant.
Dyddiad Terfyn: Dydd Gwener 1 Medi 2023
Ynghyd â’r grantiau hyn, mae BACP hefyd wedi lansio cefnogaeth anariannol ar gyfer prosiectau ymchwil cydweithredol. Gallai hyn gynnwys cymorth gweinyddol, ymgynghoriaeth ymchwil, cefnogaeth i ddadansoddi data a/neu gofnodi ymchwil. Nid oes dyddiad terfyn ar gyfer y gefnogaeth hon.