grŵp o bobl mewn cyfarfod

Grantiau Ymchwil Trawsddisgyblaethol MQ Mental Health Research

Mae Wellcome a MQ Mental Health Research yn cynnig grantiau o hyd at £50,000 i ariannu syniadau arloesol a beiddgar i ddatblygu’r maes gwyddor iechyd meddwl a gwella eu dealltwriaeth o'r hyn sy'n achosi cyflyrau iechyd meddwl neu gefnogi’r gwaith o’u datrys, a sut y gallant bersonoli a gwella ymyriadau ffarmacolegol ac anffarmacolegol i atal a thrin iselder, gorbryder a seicosis.

Dylai prosiectau arfaethedig gynnwys cymwysiadau newydd o ddulliau a chysyniadau o barthau y tu allan i wyddor iechyd meddwl i gyflymu'r cynnydd mewn ymyrraeth gynnar ar gyfer iselder, gotbryder neu seicosis.

Dyddiad cau y ffurflen mynegi diddordeb: 13:00 ar 8 Medi 2023

Dyddiad cau y cais llawn: 13:00 ar 23 Hydref 2023

Mae Wellcome a MQ Mental Health Research yn cynnal gweminar ar 5 Gorffennaf am 14:30 i egluro mwy am yr alwad ariannu, y broses ymgeisio ac adolygu ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan ymgeiswyr.

Am unrhyw gwestiynau am yr alwad ariannu, e-bostiwch y tîm.