tair menyw yn y digwyddiad

Gweithdy: Paratoi i ysgrifennu cais am gyllid ymchwil

Ydych chi’n bwriadu ymgeisio am gyllid ymchwil eleni?

Fyddech chi’n hoffi cael cefnogaeth a chyngor ar y broses ymgeisio oddi wrth y Gwasanaeth Dylunio a Chynnal Ymchwil (RDCS)?

Os ydych chi’n gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol ac yn ymgeisio mewn ymateb i unrhyw alwad gan gynnwys, ymhlith eraill, y rheini o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, byddai tîm RDCS yn hapus i gynnig cefnogaeth.

Maen nhw’n rhedeg gweithdy dwy-awr (trwy Teams) a byddan nhw’n rhoi trosolwg o gynlluniau ariannu, yn eich helpu i benderfynu beth sy’n syniad ymchwil da, sut i ddatblygu cwestiwn ymchwil a sut i gynnwys aelodau’r cyhoedd yn eich ymchwil (sy’n ofyniad allweddol gan y mwyafrif o arianwyr).

Bydd yna sesiynau byr mewn grwpiau i ofyn cwestiynau, yn ogystal â chyflwyniadau byr ac, felly, bydd yna gyfyngiad ar nifer y mynychwyr.

Polisi canslo: a fyddech cystal ag anfon e-bost os ydych chi wedi archebu lle ac wedyn yn methu â mynychu, fel bod modd cynnig eich lle i fynychwr arall. Diolch yn fawr.

I gael gwybod mwy am RDCS De Ddwyrain Cymru, ewch i’w gwefan.

-

Online

Rhad ac am ddim

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan trefnwyr y digwyddiad.