Gweithdy Prif Ymchwilwyr: Tu Hwnt i’r Sylfaenol

Hyfforddwr y Cwrs:

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Amlinelliad o’r Cwrs:

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd goruchwyliaeth Prif Ymchwilydd mewn astudiaethau ymchwil. Gweithdy rhyngweithiol, rhithwir mewn grwpiau bach yw hwn dan arweiniad ein hyfforddwyr profiadol. Byddwn yn trafod gofynion rheoleiddiol goruchwyliaeth prif ymchwilydd, sut i ddarparu tystiolaeth gadarn o’r broses hon, ac yn archwilio enghreifftiau arfer gorau ac offer i’ch cefnogi yn y swydd hon.

Mae’r cwrs hwn yn addas i brif ymchwilwyr sy’n gweithio ar ystod o wahanol fathau o astudiaethau mewn lleoliadau clinigol ac anghlinigol. Fe’i dyluniwyd ar gyfer prif ymchwilwyr sydd eisoes yn ymchwilwyr profiadol ac a hoffai ddealltwriaeth a gwybodaeth fanylach am swydd prif ymchwilydd.

Manylion y cwrs:

Fe fydd y cwrs 4 awr hwn yn cynnwys:

  • Gofynion cyfreithiol a deddfwriaethol goruchwyliaeth dda drwy gydol y llwybr ymchwil
  • Enghreifftiau ymarferol i arfer gorau a sut y gellir cyflwyno’r rhain i’ch gweithle.
  • Trafodaeth ynglŷn ag enghreifftiau o arfer da a chanfyddiadau arolygu o’r byd go iawn

Fe fydd fformat y cwrs yn cynnwys cyfranogwyr yn cyfrannu at drafodaethau a gweithgareddau grŵp yn ogystal â chyflwyniadau a rhywfaint o rannu gwybodaeth.

Ar ôl yr hyfforddiant, bydd y cyfranogwyr yn:

  • Deall gofynion a goblygiadau ymarferol goruchwyliaeth dda drwy gydol y llwybr ymchwil
  • Myfyrio ar arfer presennol, gan nodi meysydd arfer da a rhai y gellid eu gwella
  • Ystyried atebion ymarferol y gallan nhw eu rhoi ar waith i helpu i wella arfer pan fo angen

Ardystiad CPD: 

Mae’r hyfforddiant hwn wedi ei ardystio gan y Gwasanaeth Ardystio CPD.

4 awr/pwynt CPD

Sesiwn rithwir / Virtual session (Mai/May 2024)

-
-

Face to face: UHW, Cardiff (Mehefin/June 2024)

-

Sesiwn rithwir / Virtual session (Mehefin/June 2024)

-
-

Sesiwn rithwir / Virtual session (Hydref/October 2024)

-
-

Face to face: University Hospital of Wales, Cardiff (Hydref/October)

-

Sesiwn rithwir / Virtual session (Tachwedd/November 2024)

-
-

Sesiwn rithwir / Virtual session (chwefror/February 2025)

-
-

Sylwch: Mae'r cwrs hwn yn cynnwys sesiynau rhithiol byw 2 x 2 awr. Mae angen mynd i'r ddwy sesiwn.

Cofrestr