Gweithiwr Cynnwys Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, CASCADE
Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd am recriwtio gweithiwr Cynnwys Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd i gefnogi'r gwaith cynnwys parhaus yn y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE).
Yn y rôl hon, byddwch yn darparu cyngor, canllawiau a chefnogaeth i staff yn CASCADE a thu hwnt mewn perthynas â chynnwys plant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr mewn ymchwil. Bydd eich prif ffocws mewn perthynas â’r gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi’r seilwaith ar gyfer cynnwys y cyhoedd yn CASCADE, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae hyn yn cynnwys arwain ein grŵp pobl ifanc Lleisiau CASCADE sefydledig a'n grŵp cynghori Ymchwil i Rieni. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i weithio ar brosiectau unigol i gynnwys y rhai sydd â phrofiad byw ac archwilio cyfleoedd i ddatblygu ar draws y ganolfan.
Sylwch fod angen i chi fod yn barod i deithio ledled Cymru a bod yn hyblyg o ran oriau gwaith i ddiwallu anghenion prosiectau ymchwil. O bryd i'w gilydd efallai y bydd disgwyl i chi weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau i ymateb i weithgareddau cyfranogol ac ymgysylltu.
17667BR