Dyfodol delwedd Cyflawni Ymchwil Glinigol y DU yn dangos testun, logos 4 gwlad ar draws cefndir yr ymchwilydd a'r cyfranogwr

Dyfodol Cyflenwi Ymchwil Glinigol y DU

Fis Mawrth, fe lansiodd llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig weledigaeth fentrus ac uchelgeisiol i drawsnewid y ffordd o gyflenwi ymchwil glinigol yn y DU.

Ar ôl cyhoeddi ‘Saving and improving lives: the future of UK clinical research delivery’ ym mis Mawrth, mae llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig wedi manylu ar gyfnod cyntaf y gweithgarwch i sicrhau deilliannau iechyd gwell yn sgil ymchwil a chaniatáu cynnwys mwy o gleifion mewn ymchwil sy’n berthnasol iddyn nhw a sicrhau eu bod yn cael budd o’r ymchwil honno.

Yn dilyn hyn, cyhoeddwyd cynllun gweithredu 2021 i 2022 ym mis Mehefin ar gyfer cyfnod cyntaf y gweithgarwch. Nod y cynllun hwn yw sicrhau deilliannau iechyd gwell yn sgil ymchwil a chaniatáu cynnwys mwy o gleifion mewn ymchwil sy’n berthnasol iddyn nhw a sicrhau eu bod yn cael budd o’r ymchwil honno.

Diweddariad Rhagfyr 2021: Cerrig milltir allweddol yn y 6 mis ers cyhoeddi cynllun gweithredu “Dyfodol Cyflenwi Ymchwil Clinigol yn y DU” 2021/22.

Mae Rhaglen Adfer, Cydnerthedd a Thwf Ymchwil Clinigol y DU (RRG) wedi cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf heddiw gan fanylu ar y cerrig milltir allweddol sydd wedi’u cyrraedd yn ystod y 6 mis ers cyhoeddi cynllun gweithredu “Dyfodol Cyflenwi Ymchwil Clinigol yn y DU” 2021/2022.

Y diweddaraf o Raglen Adfer, Cydnerthedd a Thwf Ymchwil Clinigol y DU

Mae rhaglen RRG wrthi nawr yn cynllunio ar gyfer cyfnod nesaf y gwaith a bydd yn cyhoeddi’r cynllun gweithredu ar gyfer cyfnod dau yng ngwanwyn 2022.

 

 

Diweddariad Gorffennaf 2021

Mynychodd staff, clinigwyr ac ymchwilwyr y GIG ar draws Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru weminar yr wythnos hon, gan amlinellu’r camau gweithredu allweddol a fydd yn hyrwyddo’r weledigaeth newydd ar gyfer ymchwil glinigol yn y DU.

Darllen yr erthygl lawn

 

Diweddariad Mehefin 2021

Cyllid o £64 miliwn i gefnogi cynllun DU-eang i gryfhau’r ffordd o gyflenwi ymchwil glinigol. 

Darllen yr erthygl lawn

 

Diweddariad Mawrth 2021

Llywodraeth y DU yn manylu ar weledigaeth fentrus ar gyfer dyfodol cyflenwi ymchwil glinigol

Darllen yr erthygl lawn

 

Dogfennau

Diweddariad o Raglen Adferiad Ymchwil Clinigol, Gwytnwch a Thwf y DU

Dyfodol Cyflenwi Ymchwil Glinigol y DU

Dyfodol Cyflenwi Ymchwil Glinigol y DU: Cynllun Gweithredu 2021 i 2022

Dyfodol Cyflenwi Ymchwil Glinigol y DU: Cynllun Gweithredu 2021 i 2022 – set sleidiau gweminar