Gwirfoddolwr a nyrs ymchwil

Angen gwirfoddolwyr 18-30 oed yn Wrecsam ar gyfer astudiaeth brechiad atgyfnerthu COVID-19 newydd

21 Hydref

Mae angen gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn astudiaeth brechiad atgyfnerthu COVID-19 newydd yn Wrecsam.

Mae ymchwilwyr yn edrych i weld a yw dos rhannol o drydydd neu bedwerydd dos cymeradwy (dos atgyfnerthu) yn effeithiol ac yn ddiogel mewn oedolion ifanc.

Mae’r astudiaeth (COV-Boost) yn cael ei chynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac yn cael ei noddi gan Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Athrofaol Southampton.

Mae gan oedolion ifanc ymateb imiwnedd cryfach i frechlynnau nag oedolion hŷn, ac mae canlyniadau astudiaethau brechlyn COVID-19 wedi awgrymu y gallai dosau is o'r brechlynnau COVID-19 Pfizer neu Moderna roi ymateb imiwnedd cystal mewn oedolion ifanc â dosau uwch. Gall dosau is hefyd fod yn gysylltiedig â llai o sgil-effeithiau neu gyfraddau is o ddigwyddiadau andwyol sydd eisoes yn brin.

Gallai defnyddio dosau is ganiatáu i’r stociau presennol o frechlynnau gael eu rhoi i fwy o bobl, sy’n bwysig tra bod yr angen am frechlynnau yn fwy na nifer y dosau sydd ar gael yn fyd-eang.

Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu dewis ar hap yn yr astudiaeth i dderbyn naill ai dosau llawn neu ran-ddos o'r brechlynnau Pfizer neu Moderna ac yna gofynnir iddynt gadw dyddiadur o symptomau dros y saith diwrnod nesaf.

Bydd sawl apwyntiad dilynol hefyd i fonitro ymateb imiwnedd ac i wirio iechyd gwirfoddolwyr.

I fod yn gymwys i gymryd rhan, mae angen i wirfoddolwyr:

  • fod yn 18-30 oed
  • wedi derbyn 2 ddos o Pfizer neu Moderna a bod o leiaf 6 mis (180 diwrnod) wedi pasio ers eu hail ddos
  • heb gael brechiad atgyfnerthu eto.

Bydd tîm yr astudiaeth yn rhoi ad-daliad o hyd at £225 i gyfranogwyr am eu hamser, anghyfleustra a theithio (yn dibynnu ar gyfanswm yr ymweliadau y byddwch yn eu mynychu). Cyfanswm yr amser cymryd rhan yn yr astudiaeth yw hyd at 8 mis.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael gwybod mwy ac ymuno ymweld â gwefan yr astudiaeth: https://www.covboost.org.uk/participate-wrexham-substudy

Dywedodd Dr Orod Osanlou, Meddyg Ymgynghorol a Phrif Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r astudiaeth COV-Boost:

Rydym yn gwybod bod gan oedolion ifanc ymateb imiwnedd cryfach i frechlynnau nag oedolion hŷn, ac mae canlyniadau ymchwil brechlyn COVID-19 blaenorol yn awgrymu y gallai dosau is fod yr un mor effeithiol â dosau uwch.

Gallai hyn hefyd olygu llai o sgil-effeithiau i oedolion ifanc a gallai ganiatáu i’r stociau presennol o frechlynnau gael eu rhoi i fwy o bobl.”

Wrth i fisoedd y gaeaf nesáu, mae’n bwysig ein bod yn parhau i ymchwilio i ffyrdd o gadw’r feirws hwn ac unrhyw fwtadiadau ohono yn y dyfodol draw, gan helpu i leddfu’r pwysau ar y GIG ac osgoi unrhyw gyfyngiadau.”

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Mae'n bwysig ein bod yn parhau i ddarganfod cymaint â phosibl am y defnydd effeithiol o frechlynnau COVID-19 trwy astudiaethau ymchwil fel COV-Boost.

Rydym yn hynod ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr sydd eisoes wedi cyfrannu at ein hymchwil brechlyn ac yn gobeithio y bydd eraill bellach yn camu ymlaen i helpu.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.covboost.org.uk/participate-wrexham-substudy lle gallwch gwblhau holiadur cyn sgrinio i weld a ydych yn gymwys.

Os hoffech ragor o wybodaeth am yr astudiaeth, anfonwch e-bost i BCU.covboostqueries@wales.nhs.uk neu ffoniwch 03000 858032