Gwobr Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa

Galwad Gwobr Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa Canolfan Ymchwil Canser Cymru nawr ar agor! 

Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn falch o lansio’r Wobr Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa, ar gyfer unigolion brwdfrydig iawn sy’n dod i ddiwedd eu PhD, ac sydd am ddilyn gyrfa ymchwil annibynnol mewn maes ymchwil canser y maen nhw’n angerddol amdano. 

Rydyn ni’n falch o gynnig cyflog a nwyddau traul am 6-12 mis ar gyfer ymchwil lle gall deiliaid gwobrau gynhyrchu data rhagarweiniol, creu modelau, neu ddatblygu sgiliau wrth iddyn nhw baratoi a chyflwyno ceisiadau i sicrhau cyllid dilynol iddyn nhw eu hunain. 

Dyddiadau allweddol

  • Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 12:00 30 Gorffennaf 2025
  • Gwahoddiadau i gyfweliadau: 26 Awst 2025
  • Cyfweliadau: 4 Medi 2025
  • Dyddiad dechrau’r cyllid: Hydref 2025 – Chwefror 2026 

Mae rhagor o wybodaeth am y wobr a chanllawiau ar gyfer ceiswyr yn gallu cael eu darganfod ar wefan WCRC.

Dyddiad cau:

Lleoliad:

Sefydliad Lletyol:
Canolfan Ymchwil Canser Cymru