nyrs yn siarad â chlaf

Gwobrau MRC 2023: Enwebiadau ar agor

Mae gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) bortffolio o wobrau sydd bellach ar agor i unigolion a thimau sydd ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd ymchwil.

Mae cystadlaethau Gwobr Effaith MRC 2023 a Medal Mileniwm MRC 2023 ar agor ar gyfer enwebiadau. Dyfernir y gwobrau uchel eu parch hyn yn flynyddol i unigolion a thimau rhagorol sydd ar amrywiaeth eang o gamau gyrfa.

Bydd yr enillwyr wedi gwneud gwahaniaeth trawsnewidiol ym maes ymchwil feddygol, o ddarganfyddiadau gwyddonol i wella’r amgylchedd a’r diwylliant ymchwil ehangach.

Croesewir enwebiadau ar gyfer pobl nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol ar hyn o bryd mewn rhai sectorau o’r gymuned ymchwil ac arloesi, gan gynnwys menywod, pobl ag anabledd ac aelodau o grwpiau ethnig lleiafrifol.

Terfyn ar gyfer enwebiadau: 16:00 ar 30 Mehefin 2023

 

Gwobr Effaith MRC 2023

Mae Gwobr Effaith MRC yn cydnabod cyfraniadau rhagorol yn y tri maes canlynol:

  • Effaith Gwyddoniaeth Agored
  • Effaith Tîm Rhagorol
  • Effaith Gyrfa Gynnar 

Mae’r gwobrau yn agored i gymysgedd o unigolion a thimau. Bydd yr enillwyr yn derbyn hyd at £20,000.

Ceir rhagor o fanylion ar gymhwysedd a’r broses enwebu ar wefan Gwobr Effaith MRC, neu anfonwch e-bost i’r tîm.

 

Medal Mileniwm MRC 2023

Yn agored i unigolion ar lefel uwch, crëwyd Medal Mileniwm MRC yn arbennig gan y Bathdy Brenhinol a’i dyfarnu am gyfraniadau rhagorol tuag at genhadaeth yr MRC o wella iechyd dynol trwy ymchwil o’r radd flaenaf yn y byd.

Dylai enwebeion arddangos:

  • rhagoriaeth wyddonol ac effeithiau rhagorol
  • ymrwymiad i wella’r amgylchedd a’r diwylliant ymchwil ehangach.

Ceir rhagor o fanylion ar gymhwysedd a’r broses enwebu ar wefan Medal Mileniwm MRC, neu anfonwch e-bost i’r tîm