Text says "celebrate Welsh research excellence" with image of two women holding a glass award

Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru nawr ar agor ar gyfer ceisiadau

21 Mai

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024, a fydd yn dathlu rhagoriaeth ymchwil Cymru ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol dros y 12 mis diwethaf.

Mae'r Gwobrau yn agored i bob ymchwilydd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol, ymarferwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a thimau ymchwil ehangach cysylltiedig.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae ymchwil o bwys yw thema ein cynhadledd eleni. Wrth i ni lywio tirwedd esblygol iechyd a gofal cymdeithasol, mae'r gwobrau hyn yn tynnu sylw at gyflawniadau unigolion angerddol a thimau cydweithredol sy'n ymdrechu i lywio a thrawsnewid ymchwil sy'n newid bywydau yng Nghymru.

"Mae wedi bod yn 12 mis prysur arall i'r gymuned ymchwil ledled y wlad. Edrychaf ymlaen at ddathlu eich ymrwymiad a'ch ymdrechion diwyro gyda chi yn y gynhadledd."

Y categorïau ar gyfer 2024 yw:

  • Gwobr Effaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol – allwch chi ddangos sut mae eich ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl?
  • Gwobr Seren Ymchwil sy’n dod i’r Amlwg - ydych chi yng nghamau cynnar eich gyrfa ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol? Ydych chi'n cyfrannu'n sylweddol at eich maes? Ydych chi'n arweinydd newydd y dyfodol? 
  • Gwobr Cynnwys y Cyhoedd - ydych chi wedi cynnwys y cyhoedd yn eich ymchwil mewn ffordd ystyrlon ac arloesol? Ydych chi'n cyrraedd safonau'r Deyrnas Unedig ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd?
  • Gwobr Arloesi mewn Ymarfer – allwch chi ddangos sut mae unigolion neu dimau ymchwil wedi gwneud gwahaniaeth wrth ddatblygu, cyflwyno neu ledaenu / gweithredu ymchwil?

Dewch i ni ddathlu eich ymchwil yn 2024

Bydd panel o feirniaid yn penderfynu ar yr enillwyr a byddant yn cael eu cyhoeddi'n fyw yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar 10 Hydref 2024 yng Ngerddi Sophia, Caerdydd. 

Bydd enillydd pob categori yn derbyn bwrsari o hyd at £250 i fynychu cwrs hyfforddi, cynhadledd, gweithdy neu ddigwyddiad tebyg i ddatblygu maes o'u set sgiliau ymchwil. 

Ymgeisio am y gwobrau

Darllenwch ddogfen ganllaw Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024 i weld manylion llawn cymhwysedd a meini prawf ar gyfer pob categori. 

Cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen gais berthnasol isod a cofiwch ddarparu unrhyw ddeunydd ategol fel y nodir yn y ddogfen ganllaw

Dyddiad cau: 17:00 ar 2 Medi 2024

Cofrestrwch i ymuno â'r rhestr aros i fynychu'r gynhadledd.

Enillwyr y gorffennol

Mae gwobrau yn y gorffennol wedi cydnabod gwaith o amrywiaeth o feysydd arbenigol gan gynnwys torri rhan isaf y goes neu’r fraich ymaith, anghenion cyfieithu ar y pryd mewn lleoliadau iechyd i bobl sy'n ceisio noddfa, lleddfu poen mewn gofal lliniarol a gwell dealltwriaeth o anghenion iechyd gofalwyr di-dâl.

Ychydig o ysbrydoliaeth gan enillwyr y blynyddoedd blaenorol.