Greg Lloyd and family in Cardiff Half Marathon

Gwraig ddewr er cof am ei gŵr ac i gefnogi ymchwil i ataliad y galon

28 Medi

Mae teulu a ffrindiau swyddog heddlu 'anhunanol' a fu farw yn dilyn ataliad y galon yn paratoi i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi ymchwil i'r cyflwr.

Bu farw Greg Lloyd, 51 oed, ym mis Awst 2022 ar ôl iddo ddioddef ataliad y galon yn ei gwsg a chafodd ei roi mewn coma meddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Mae ei wraig, Louise Lloyd, wedi gwneud addewid i redeg gyda'i phlant Rhys a Sophie sy'n 23 oed a 21 oed, a thua 120 o aelodau o’r teulu, ffrindiau a chydweithwyr o dde Cymru yn yr hanner marathon er cof am Greg ac fel ffordd o godi arian i gefnogi ymchwil yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Dywedodd:

Cafodd Greg ei anfon i'r ward gofal critigol yn yr ysbyty a'i roi mewn coma meddygol. Roedd wedi cael trawiad ar y galon ac yna ataliad y galon yn ei gwsg ac roedd wedi dioddef niwed i'r ymennydd oherwydd diffyg ocsigen. Fe wnaeth staff yr ysbyty eu gorau ond doedd dim byd y gallen nhw ei wneud."

Dywedodd Louise fod Greg wedi bod yn fywiog ac wedi byw bywyd iach. Yn rhedwr brwd, roedd wedi cwblhau Hanner Marathon Caerdydd dair gwaith yn flaenorol.

Bydd eu hymdrechion codi arian yn caniatáu i Ysbyty Athrofaol Cymru gynnal prosiect ymchwil newydd i driniaethau ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i'r Ysbyty. Y gobaith yw y bydd yr astudiaethau hyn yn rhoi mwy o atebion o ran y ffordd orau o drin cleifion sydd wedi cael ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty i wella eu cyfle o gael canlyniad da. Ychwanegodd Louise:

Dyma un o'r pethau y gallwn ni fel teulu a ffrindiau Greg ei wneud i'w anrhydeddu. Roedd yn berson anhunanol a byddai bob amser yn barod i helpu eraill. Os bydd yr ymchwil yn helpu un teulu yn y dyfodol, bydd yn werth ei wneud."

Yn ôl y British Heart Foundation, Mae llai nag un o bob deg o bobl yn y DU sy'n dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn goroesi.

Dywedodd yr Athro Matt Wise, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Ymchwil a Datblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a Phrif Ymchwilydd safleoedd gofal critigol y DU ar gyfer nifer o dreialon nodedig ar ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty:

Ar ôl cwblhau tri threial gofal critigol i ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn llwyddiannus gyda chefnogaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, bydd ein tîm yn defnyddio'r arian sydd wedi'i godi i helpu i gynnal y pedwerydd treial STEPCARE eleni i barhau i chwilio am ymyriadau newydd a fydd yn gwella canlyniadau cleifion."

Dywedodd Jade Cole, Arweinydd Ymchwil a Datblygu Gofal Critigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru:

Byddai unrhyw rodd er cof am Greg yn cael ei defnyddio i ariannu  ymchwil i drin ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty a gallai hynny helpu eraill yn y dyfodol."

Gallwch gefnogi Louise a'i thîm o redwyr ym mis Hydref eleni trwy ymweld â'u tudalen.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ym maes ymchwil yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.