Gwrthgyrff o gleifion sydd wedi gwella yn cael eu treialu nawr fel triniaeth bosibl mewn dwy brif astudiaeth ymchwil COVID-19 yng Nghymru
22 Mehefin
Mae gwrthgyrff o gleifion sydd wedi gwella o COVID-19 yn cael eu treialu nawr fel triniaeth bosibl mewn dwy astudiaeth ymchwil iechyd cyhoeddus brys yng Nghymru.
Y gobaith ydy y bydd y gwrthgyrff, sydd yn y plasma sy’n cael ei gasglu oddi wrth bobl sydd eisoes wedi cael COVID-19, yn gallu helpu pobl sy’n ddifrifol wael yn yr ysbyty gyda’r clefyd.
Mae’r therapi, o’r enw plasma ymadfer, yn cael ei gynnwys yn astudiaethau RECOVERY a REMAP-CAP, ynghyd â chyffuriau eraill sy’n cael eu treialu.
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sydd wedi sefydlu’r astudiaethau DU-eang hyn ledled Cymru*.
Meddai Dr Matt Morgan, arweinydd arbenigedd gofal critigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Gofal Dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru:
“Mae hyn yn golygu rhoi’r gwrthgyrff o gleifion yng Nghymru sydd eisoes wedi gwella o COVID-19 i gleifion sy’n ddifrifol wael. Yn debyg iawn i roi gwaed, bydd cleifion sy’n gwella’n gallu gwneud rhodd o’u gwrthgyrff ar ffurf plasma i helpu gyda’r treialon a, gobeithio, helpu cleifion.
“Rydyn ni dal i fod angen mwy o driniaethau effeithiol, seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer COVID-19. Er bod peiriannau anadlu a rhai cyffuriau’n gallu helpu tra bo’r staff yn gofalu am gleifion gystal ag y medran nhw, mae arnon ni wirioneddol angen mwy o driniaethau sy’n gweithio. Nod yr astudiaethau hyn ydy ateb y cwestiwn ynglŷn â’r posibilrwydd o ddefnyddio’r gwrthgyrff o gleifion sydd wedi gwella i achub bywydau cleifion â COVID-19.”
Mae plasma heb COVID-19 ynddo wedi’i ddefnyddio’n ddyddiol yn GIG Cymru ar gyfer amrywiaeth o anghenion am flynyddoedd lawer. Y gobaith ydy y bydd therapi plasma ymadfer COVID-19 yn helpu cleifion i ddatblygu imiwnedd gan ei fod yn trallwyso gwrthgyrff yn erbyn y feirws, gan helpu’r claf sy’n derbyn y plasma i ymladd haint.
Gwasanaeth Gwaed Cymru, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n cyflenwi’r rhaglen casglu plasma ymadfer COVID-19 yng Nghymru.
Meddai Dr Gill Richardson, Uwch Ymgynghorydd Proffesiynol i Brif Swyddog Meddygol Cymru:
“Mae gan blasma ymadfer botensial mawr i helpu cleifion difrifol wael i wella ac mae wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer feirysau sy’n dod i’r amlwg, fel SARS ac Ebola, yn y gorffennol. Mae’r treialon sy’n edrych ar COVID-19 yn bwysig gan nad oes gennon ni frechlyn eto ac ychydig rydyn ni’n ei wybod ynglŷn ag imiwnedd yn dilyn haint.
“Trwy gydweithio â gwyddonwyr arbenigol yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, Imiwnoleg, Hematoleg, Gofal Critigol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydyn ni wedi gallu sicrhau bod plasma ymadfer ar gael i’r ddwy astudiaeth ymchwil glinigol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn cysylltu ag ymchwilwyr rhyngwladol gan gynnwys clinig Mayo yn UDA.”
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi’r rheini sydd wedi cael canlyniad prawf positif am COVID-19 a allai roi plasma, ac wedi ysgrifennu at y rhai cymwys.
Gwasanaeth Gwaed Cymru sy’n casglu’r plasma a’i brosesu. Mae diogelwch a llesiant y rhoddwr yn hollbwysig, ac mae’n rhaid iddyn nhw fod wedi gwella’n llwyr cyn gwneud rhodd a bod yn rhydd o’r feirws.
Am y rhesymau hyn, fel rheol, ni fydd plasma’n cael ei gasglu nes y bydd o leiaf 28 diwrnod wedi mynd heibio ar ôl gwella a hyd nes bodlonir meini prawf sefydledig ar gyfer dethol rhoddwyr gwaed.
Mae Hap-dreial Gwerthuso Therapi COVID-19 (RECOVERY) yn profi i weld a all cyffuriau presennol neu newydd helpu cleifion sydd wedi’u derbyn i’r ysbyty â COVID-19 wedi’i gadarnhau. Dyma hap-dreial clinigol mwyaf y byd o’r triniaethau posibl i COVID-19, gyda Phrifysgol Rhydychen yn ei arwain a’r Cyngor Ymchwil Feddygol yn ei ariannu.
Mae treial platfform REMAP-CAP, sydd ar gyfer cleifion difrifol wael â COVID-19 y mae Coleg Imperial Llundain yn ei harwain a Chanolfan Feddygol Prifysgol Utrecht yn ei hariannu, yn rhoi nifer o driniaethau ar brawf ar yr un pryd, ar gyfer cleifion sydd wedi'u derbyn i ofal dwys gyda niwmonia difrifol sydd wedi’i ddal yn y gymuned.
Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n cydlynu sefydlu ymchwil ac astudiaethau yn genedlaethol yng Nghymru:
“Rydyn ni’n gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod cleifion ledled Cymru’n gallu cymryd rhan mewn ymchwil COVID-19 a fydd, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth i ofal a thriniaeth y clefyd yn y dyfodol.
“Mae rhoi plasma ymadfer ar brawf fel triniaeth bosibl, trwy astudiaethau RECOVERY a REMAP-CAP, yn gyfle i’r rheini sydd wedi gwella o’r clefyd o bosibl helpu rhywun sy’n ymladd am eu bywyd.”
Mae gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wefan am ymchwil COVID-19 yng Nghymru sy’n manylu ar yr holl astudiaethau ymchwil cysylltiedig sydd ar waith, neu ar y gweill, yng Nghymru.