Jessie Powell, uwch reolwr nyrsio

‘Gwthio’r ffiniau’ i gyflawn ymchwil cyfnod cynnar yng Nghymru

Dychmygwch mai chi yw’r person cyntaf yn y byd i gael y cyfle i roi cyffur newydd ar brawf; mae’n bosibl na fydd y cyffur yn eich helpu chi nawr ond fe allai roi gobaith i filoedd o bobl yn y dyfodol, sy’n byw â’r un cyflwr cronig â chi.

Mae'r math hwn o ymchwil cyfnod cynnar arloesol – pan rhoddir triniaethau newydd ar brawf am y tro cyntaf mewn cleifion – bellach ar gael fel mater o drefn yma yng Nghymru.

Rydyn ni wedi bod y tu ôl i’r llenni yn y Cyfleuster Ymchwil Glinigol (CRF) yng Nghaerdydd a’r Bartneriaeth Ymchwil Cyfnod Cynnar Cymru Gyfan newydd (AWaRe), i gael gwybod mwy.

Gwych i gleifion

Mae CRF i’w gael ar y llawr cyntaf uwch yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae Jessie Powell, uwch reolwr nyrsys, yno i’n cyfarch wrth i ni gyrraedd ac mae hi’n awyddus i’n tywys o amgylch y cyfleuster.

“Rydyn ni’n ffodus iawn bod gennon ni gyfleuster fel hwn gan ein bod ni’n gallu cynnig opsiynau triniaeth newydd yng Nghymru,” meddai Jessie. “Mae yna nifer o gyfleusterau fel hyn yn Lloegr ac os oedd cleifion yng Nghymru eisiau cymryd rhan mewn treialon cyfnod 1 o’r blaen roedd yn rhaid iddyn nhw groesi’r ffin i gael y driniaeth. Felly dwi’n meddwl ei fod yn wych i gleifion.”

Mae yna lawer o ddrysau ar hyd y coridor; y tu ôl iddyn nhw mae swyddfeydd ar gyfer y nyrsys ymchwil ymroddedig yn ogystal ag ystafelloedd ymgynghori lle mae cleifion yn cael eu harwain trwy’r broses gydsynio.

Tuag at ben draw’r coridor mae drws i’r chwith sy’n agor i ward gyda lle i wyth gwely, ac i’r dde mae labordy, yn llawn rhewgelloedd, oergelloedd, deoryddion ac allgyrchyddion (peiriannau troelli gwaed).

“Fuasen ni ddim yn gallu cynnal yr un nifer o dreialon cyfnod cynnar, neu gyda’r fath gymhlethdod, pe na fyddai’r labordy gennon ni,” esbonia Jessie. “Mae llawer o’r astudiaethau cyfnod 1 yn cynnwys nifer fawr o brofion gwaed. Er enghraifft, efallai y byddai angen cymryd sampl gwaed gan glaf cyn iddo gael dos o gyffur, yna fe fyddai’n cael ei ddosio â’r cyffur newydd, ac o bosibl wedyn byddai angen cymryd samplau pellach bob 15 munud.

“Os mai dim ond un nyrs sydd gennych chi’n gofalu am glaf, yn cymryd samplau gwaed a hefyd yn eu prosesu, pe bai’n rhaid iddi fynd draw i’r uned i wneud hynny, fydden ni ddim yn gallu cadw llygad ar y claf i wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel ac yn hapus yn ogystal â phrosesu’r gwaed.”

Ymchwil gyntaf yn y byd

Mae gweithgarwch ymchwil cyfnod cynnar yn y CRF wedi cynyddu yn y flwyddyn ddiwethaf a gobeithio bod y duedd hon am barhau. Mae’r CRF nawr yn gartref i dimau astudiaethau cyfnod cynnar a chyfnod hwyr, gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ariannu nyrsys yn y ddau faes i gyflawni treialon clinigol.

“Rydyn ni wedi gallu canolbwyntio ar yr astudiaethau cyfnod cynnar oherwydd bod gennon ni nawr weithlu mwy sy’n gallu mynd allan a gwneud yr astudiaethau cyfnod hwyrach,” meddai Jessie. “Yn y gorffennol, fe fyddai hynny wedi disgyn ar y tîm cyfnod cynnar. Felly mae’n braf bod gennon ni dîm cyfnod cynnar a thîm cyfnod hwyr o fewn y CRF."

Ym mis Awst, cafodd y claf cyntaf yn y byd ddos o gyffur newydd yn y CRF, â’r nod o atal a rheoli diabetes math 1.

“Dwi’n meddwl ei bod hi’n wych i gleifion mai ni oedd y cyntaf yn y byd i ddosio,” meddai Jessie. “Heb gyfleuster fel hwn fydden ni ddim yn gallu cynnig hynny i gleifion.

“Roedd yn rhaid inni wthio’r ffiniau go iawn â’r treial hwn gan nad oedden ni erioed cyn hyn wedi llwyddo i staffio tri arhosiad dros nos. Fe wnaethon ni hyn fel ein bod ni’n gwybod ein bod ni’n gallu ei wneud ond beth y byddwn ni’n ei wneud nesaf sy’n bwysig; rhaid inni wthio’r ffiniau nesaf.”

Gofal cyfleus

Efallai fod cleifion sy’n cymryd rhan yn y treialon cyfnod cynnar wedi rhoi cynnig ar ofal safonol, er enghraifft cemotherapi neu imiwnotherapi i drin canser, ond nad ydy hynny wedi gweithio iddyn nhw.

Dyna pryd y byddan nhw o bosibl yn gymwys ar gyfer cyffur ymchwil cyfnod cynnar. Yn achos cleifion canser yng Nghymru, mae hynny’n gallu golygu teithio. Ar hyn o bryd, mae pob treial canser cyfnod cynnar sy’n agor yng Nghymru’n cael ei reoli o Ganolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd.

Pan fydd claf eisiau archwilio treial cyfnod cynnar fel opsiwn, mae angen iddo ymweld â’r ganolfan honno.

Ond mae hyn i gyd yn newid.

Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi helpu i ddatblygu partneriaeth – o’r enw AWaRe – rhwng Canolfan Ganser Felindre a Chanolfan Ganser De Orllewin Cymru.

Yn ôl Sian Whelan, Uwch Nyrs Ymchwil Ymchwil Canser y DU yn Ysbyty Singleton yn Abertawe, “Mae’n bosibl nawr i’n cleifion yng Ngorllewin Cymru gael eu gweld mewn clinig gwybodaeth yn Abertawe i siarad am y posibilrwydd o fod yn rhan o dreial cyfnod cynnar heb orfod teithio i Gaerdydd ar gyfer yr ymgynghoriad cyntaf.

“Cyn sefydlu’r clinig fe fyddai rhai cleifion yn teithio i Gaerdydd dim ond i gael gwybod nad oedd treial ar gael iddyn nhw. Rydyn ni’n cael y wybodaeth ddiweddaraf yn wythnosol o Felindre felly rydyn ni’n gwybod a fydd yna dreial ar gael, ac fe allwn ni fynd trwy restr wirio â’r claf i edrych a yw’n gymwys ar gyfer treial, yma yn Abertawe.”
Yn ôl Kay Wilson, Arweinydd y Tîm Cyfnod Cynnar yng Nghanolfan Ganser Felindre, mae’r cydweithio’n rhywbeth sydd â “buddion enfawr” i’r cleifion a’u teuluoedd. “Mae gweithio ar y cyd fel hyn yn gyfle gwych i gleifion Cymru a’n cymuned ymchwil yng Nghymru. Gyda’n gilydd, fe allwn ni gyflawni pethau gwych i gael effaith ar brofiad a deilliannau’r cleifion.”

Ymchwil 24/7

Mae’r Cyfleuster Ymchwil Glinigol yng Nghaerdydd (CRF) a phartneriaeth AWaRe yn bwriadu gwella ymhellach y mynediad i driniaethau sy’n torri cwys newydd mewn ffordd sydd o fudd, ac yn gyfleus, i gleifion.

“Dim ond y dechrau ydy hyn,” meddai Sian. “Rydyn ni’n gobeithio y bydd hi’n bosibl ymestyn y gwasanaeth mewn amser i ddarparu’r driniaeth yn lleol hefyd.”
Mae Jessie’n credu y bydd llwyddiant dosio’r claf cyntaf yn y treial diabetes byd-eang yn agor drysau i ddod â mwy o astudiaethau i’r CRF a Chymru.

“Yr hyn yr hoffen ni ei weld yn y dyfodol ydy, petaen ni’n cynnal yr astudiaeth cyfnod 1 yma yng Nghaerdydd, y byddai tîm yr astudiaeth yna’n dod yn ôl aton ni ar gyfer cyfnod 2 a chyfnod 3 fel ein bod ni’n gallu gweld pethau o’r tro cyntaf y mae rhywun yn cael y cyffur yr holl ffordd drwodd i’r trwyddedu. Fe fyddai hynny’n wych.

“Dwi o’r farn ein bod ni’n dod yn ddeniadol iawn ledled y byd fel cyfleuster os y gallwn ni gynnig y math hwnnw o ymrwymiad a’r math hwnnw o staffio ar gyfer treialon, gan mod i’n gwybod bod yna lawer o gyfleusterau fyddai ddim yn gallu gwneud hynny,” meddai Jessie. “Dydyn ni ddim eto yn 24/7 ond dwi’n meddwl mai dyna lle yr hoffen ni fod yn y dyfodol.”

 


Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 5, Rhagfyr 2018