Coronafeirws

Gwyddonwyr yn cyhoeddi apêl brys am gymorth ar astudiaeth enetig arloesol i Covid

13 Ebrill

Mae gwyddonwyr sy'n rhan o astudiaeth ymchwil enetig i Covid-19 arloesol yn gofyn ar frys i bobl yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd sydd wedi cael y feirws i roi ychydig o waed i'w prosiect.

Er mwyn helpu i annog cynifer o bobl â phosibl i ymuno â'r astudiaeth, gall gwirfoddolwyr drefnu apwyntiad yn gyflym ac yn hawdd erbyn hyn i nyrs ymweld â'r cartref a rhoi sampl.

Mae'r Astudiaeth COVID-19 GenOMICC unigryw, sy'n cael ei gyflwyno yng Nghymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn dadansoddi genynnau pobl sydd wedi cael y feirws i ddarganfod pam mae rhai yn cael symptomau ysgafn neu ddim symptomau tra bod eraill yn mynd yn sâl iawn. Mae'r astudiaeth eisoes yn cyfrannu at y frwydr yn erbyn COVID, wrth i ganlyniadau rhagarweiniol helpu i nodi triniaethau newydd posibl.

Fodd bynnag, er mwyn i'r astudiaeth barhau i wneud cynnydd, mae angen i'r gwyddonwyr recriwtio 2,500 yn fwy o bobl o bob cefndir ar frys. Ynghyd â cheisio cymorth aelodau o gymunedau Asiaidd a Duon, maen nhw hefyd yn awyddus i fwy o ddynion wirfoddoli.

Mae'r system apwyntiadau cartref eisoes wedi bod yn boblogaidd pan lansiwyd y cynllun yn yr Alban a Bradford yn gynharach eleni – ac wrth i’r cyfyngiadau symud ddechrau cael eu llacio yng Nghymru, mae trefnwyr yn gobeithio cael ymateb tebyg gan bobl ledled y wlad.

"Un prif amcan sydd i'r astudiaeth hon – ein helpu i ddeall pam mae COVID-19 wedi effeithio ar wahanol grwpiau mewn gwahanol ffyrdd," meddai Dr Matt Morgan, Ymgynghorydd Meddygaeth Gofal Dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Arweinydd Arbenigol ar gyfer Gofal Critigol yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

"Ledled y DU, mae nifer anghymesur o bobl sydd wedi’u derbyn i'r ysbyty wedi bod yn ddynion yn ogystal â phobl o dras Asiaidd a Du – dyna pam mae angen i bobl o'r grwpiau hyn yn benodol ymuno â'r astudiaeth cyn gynted â phosibl.

"Os ydych yn gymwys, cofrestrwch ac ymunwch â'r prosiect. Byddwch yn cyfrannu’n uniongyrchol at helpu i wella ein gwybodaeth am y feirws a darganfod ffyrdd newydd o'i guro."

Dywedodd Dr Kenneth Baillie, Prif Ymchwilydd yr astudiaeth: "Rydym yn apelio am fwy o wirfoddolwyr o bob cefndir i ddod ymlaen a chofrestru. Mae angen i ni ddod o hyd i bobl a brofodd yn bositif am COVID ond a gafodd symptomau ysgafn neu ddim symptomau ac nad oedd angen triniaeth ysbyty arnynt. Er mwyn gwireddu potensial yr astudiaeth cymaint â phosibl, mae'n bwysig bod y gwirfoddolwyr hyn yn debyg o ran oedran, rhyw ac ethnigrwydd i’r bobl hynny yr effeithiwyd arnynt yn ddifrifol ac a oedd yn yr ysbyty.”

Ychwanegodd yr Athro Syr Mark Caulfied, Prif Wyddonydd Genomics England: “Po gyflymaf y gellir cwblhau'r ymchwil hwn, y cyflymaf y gallwn ddatrys y jig-so COVID-19 ac amddiffyn pobl sy'n agored i niwed. Mae ymchwil genetig i COVID-19 bellach yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn ein brwydr yn erbyn y feirws, gan ein galluogi i adnabod mathau newydd o'r feirws a datblygu triniaethau.

"Bydd canfyddiadau Astudiaeth COVID-19 GenOMICC yn gwella'r driniaeth, y gofal a'r canlyniadau i'r rhai sydd mewn perygl mwyaf ac yn lleihau nifer y marwolaethau."

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Darparu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu cymaint â phosibl am COVID-19 ac i wneud hynny mae angen i bobl wirfoddoli i gymryd rhan mewn ymchwil. Trwy gyflwyno system trefnu apwyntiadau, mae Astudiaeth COVID-19 GenOMICC yn rhoi cyfle i bobl gyfrannu at ymchwil a allai achub bywydau o'u cartrefi eu hunain. Gall y cyfraniadau hyn helpu i ddarparu'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i roi'r canlyniad gorau posibl i bob claf."

Mae'r prosiect ymchwil yn agored i unrhyw un a brofodd yn bositif i COVID-19 ond a gafodd symptomau ysgafn neu ddim symptomau ac nad oedd angen triniaeth ysbyty – gall gwirfoddolwyr gofrestru ar-lein yma.