Hen ddyn a menyw yn yr ardd

Galwad newydd am gyllid partneriaeth i wella iechyd a gofal cymunedol bellach ar agor

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) yn gwahodd grwpiau cymunedol, elusennau a mentrau cymdeithasol i weithio gydag ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol i:

  1. ddod o hyd i atebion gwell ar gyfer problemau iechyd a gofal sy'n effeithio ar eich cymuned neu'r bobl rydych chi'n eu cefnogi
  2. datblygu ffyrdd newydd o gydweithio ar gyfer ymchwilwyr a chymunedau

Gall grwpiau weithio mewn partneriaeth ag ymchwilwyr sy'n gweithio mewn Ymddiriedolaeth GIG, Corff GIG neu ddarparwr arall gwasanaethau'r GIG yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban i gyflwyno cynigion ar y cyd.

Dyma ail rownd Datblygu Partneriaethau Cyhoeddus Arloesol, Cynhwysol ac Amrywiol gyda chyllid o hyd at £150,000 dros 6 a 18 mis.

I gael rhagor o wybodaeth am yr alwad ariannu hon, ewch i'w gwefan, neu e-bostiwch y tîm.

Yn cau: 25 Hydref 2023