Comic

Grymuso plant a’u teuluoedd: ffordd arloesol o gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil

6 Chwefror

Dywedodd menyw ifanc ysbrydoledig sy’n byw gyda syndrom prin sy’n achosi poen difrifol yn y cymalau ei bod yn teimlo ei bod hi wedi’i ‘grymuso’ trwy helpu gydag astudiaeth gydweithredol sy’n ymchwilio i brofiadau plant â phoen cronig.

Dywedodd Georgina Ferguson-Glover, sy’ n byw gyda syndrom Ehlers-Danlos gor-symudol, fod bod yn rhan o’r prosiect yn gwneud iddi deimlo ei bod hi wedi gwneud cyfraniad ystyrlon at ymchwil i bobl sy’n byw gyda phoen cronig.

Dywedodd: “Mae’n deimlad gwych. Roedd gallu cymryd rhan ym mhrosiect CHAMPION yn teimlo fel bod rhywbeth positif yn dod o fy nghyflwr poen cronig a bydd fy mewnbwn a fy mhrofiadau yn helpu eraill fel fi yn y dyfodol.”

Mae Dr Mayara Silveira Bianchim, Arweinydd Cleifion a’r Cyhoedd ar gyfer Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR) a Swyddog Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, wedi cael ei hanrhydeddu â Gwobr uchel ei pharch Thomas C Chalmers yn y Cochrane Colloquium am ei chyflwyniad am brosiect CHAMPION – ‘Co-producing with children and young people on a meta-ethnography on experiences of chronic pain, treatments and services.’ Daw’r gydnabyddiaeth mewn ymateb i’r ffordd arloesol y cafodd pobl â phrofiadau bywyd eu cynnwys yn yr astudiaeth.  

Gwnaeth Mayara a’r tîm gynnwys plant sy’n byw gyda phoen cronig a’u rhieni ar bob cam, gan osod safon newydd ar gyfer cynnwys cleifion a’r cyhoedd mewn astudiaethau sy’n dwyn ynghyd ymchwil sy’n bodoli eisoes ac yn darparu dealltwriaeth allweddol o boen cronig yn ystod plentyndod. Roedd dulliau creadigol Mayara yn cynnwys defnyddio cartwnau a ffeithluniau i hwyluso cydweithredu â phlant a’u rhieni. Gweledigaeth y tîm oedd sicrhau bod yr ymchwil yn parhau i fod yn berthnasol ac yn cynhyrchu canlyniadau ystyrlon sy’n cael effaith uniongyrchol ar fywydau’r rhai y mae poen cronig yn effeithio arnynt.

Dywedodd Mayara: “Mae’r gwobrau sy’n cael eu cyflwyno gan Gymuned Cochrane yn cael eu cydnabod fel y safon uchaf ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r wobr hon yn bwysig iawn i’r tîm gan ei bod yn cadarnhau’r holl waith caled sy’n cael ei wneud gan ein haelodau sy’n gleifion ac yn aelodau o’r cyhoedd, a’r tîm ymchwil.”

Cafodd y ffaith bod pobl ifanc a’u teuluoedd wedi’u cynnwys effaith fawr ar yr astudiaeth. Roedd eu cymorth wrth ddylunio’r astudiaeth ac o ran y gwaith dadansoddi, dehongli a lledaenu yn allweddol i gynhyrchu canlyniadau ystyrlon i wella polisi ac ymarfer.

Ychwanegodd Georgina:

 

“Yn aml, gall pobl â phoen cronig deimlo fel nad oes neb yn gwrando arnom ni, ond yn y prosiect hwn gwrandawyd ar bopeth y gwnaethon ni ei ddweud, a chafodd ei gofnodi a’i drafod a wnaeth i mi deimlo fy mod i’n cael fy ngwerthfawrogi.”

Ychwanegodd Dr Emma France, arweinydd ymchwil o Brifysgol Stirling:

“Mae’r gwaith hwn yn cynrychioli dyfodol dulliau ymchwil, gan ddangos bod cleifion a’r cyhoedd yn bartneriaid gweithredol yn y broses ymchwil. Yna, mae’r canlyniadau nid yn unig yn gadarn yn wyddonol, ond maen nhw hefyd yn ystyrlon iawn i’r cymunedau y maen nhw’n anelu at eu gwasanaethu.”

I gael gwybod am y newyddion ymchwil diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.