Hanfodion Pen Ymchwilwyr

Amlinelliad o’r Cwrs: 

Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer y rheini sy’n newydd i rôl Pen Ymchwilydd neu sydd â diddordeb mewn dod yn Ben Ymchwilydd. Mae’r cwrs yn diffinio cyfrifoldebau Pen Ymchwilydd sy’n arwain gwaith cynnal astudiaeth ar safle ymchwil ac mae’n dangos y sgiliau a’r ymddygiadau sy’n ofynnol i fod yn Ben Ymchwilydd effeithiol. 

Mae’r cwrs hwn yn rhagdybio bod mynychwyr eisoes yn gweithio mewn amgylchedd ymchwil a’u bod wedi cwblhau Cyflwyniad i Arfer Clinigol Da o’r blaen. 

Hyd y Cwrs 

1 awr 

Manylion y cwrs  

Fe fydd y cwrs e-ddysgu hwn yn disgrifio:  

  • Cyfrifoldebau Pen Ymchwilydd 

  • Pwysigrwydd arweinyddiaeth effeithiol ar safle astudiaeth 

  • Yr offerynnau y gellir eu rhoi ar waith i sicrhau arfer gorau 

  • Lle i gael cefnogaeth ychwanegol 

Bydd fformat y cwrs yn rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwis i gynorthwyo â’r dysgu 

Ar ôl yr hyfforddiant, bydd y cyfranogwyr: 

  • Yn gallu diffinio cyfrifoldebau Pen Ymchwilydd 

  • Cydnabod beth sy’n gwneud Pen Ymchwilydd effeithiol 

  • Deall y sgiliau a’r ymddygiadau sy’n ofynnol i fod yn Ben Ymchwilydd effeithiol, a myfyrio ynglŷn â’r rhain 

Ardystiad CPD 

Mae’r hyfforddiant yma wedi ei ardystio gan y Gwasanaeth Ardystio CPD. 

Pwyntiau CPD/1 awr 


Mae’r wybodaeth, y cynnwys a’r deunyddiau sydd ar gael yn yr hyfforddiant hwn at ddibenion gwybodaeth gyffredinol. Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth yn gyfoes ac yn gywir, mae bob amser yn beth call gwirio’r canllawiau diweddaraf.

 

Dechrau hyfforddiant

Os byddwch yn cael unrhyw anawsterau yn ystod yr hyfforddiant, cysylltwch â'r tîm hyfforddi

E-bost