Head of Communications for Research Delivery and Industry - Health and Care Research Wales

Mae cyfle unigryw a chyffrous wedi codi i unigolyn eithriadol gael ei benodi yn Bennaeth Cyflenwi Ymchwil a Chyfathrebu Diwydiant yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.  

Bydd yr uwch rôl arwain hon yn rhan o'r gwasanaeth Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chyfranogiad ehangach ac yn ysgogi datblygiad a darpariaeth cynllun marchnata strategol i arddangos rhagoriaeth ymchwil Cymru ac adeiladu perthynas agosach â phartneriaid masnachol byd-eang. Bydd deiliad y swydd hefyd yn arwain ar gyfathrebu ar gyfer cyflwyno ymchwil yng Nghymru. 

Bydd angen bod gan ddeiliad y swydd sgiliau cyfathrebu rhagorol, meddu ar ymagwedd gadarnhaol a hyblyg tuag at anghenion y Gwasanaeth, y gallu i gael ei ysgogi, yn barod ar gyfer yr her nesaf ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm prysur iawn. 

Gall y swydd gau'n gynnar os derbynnir ceisiadau digono

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Datblygu strategaeth farchnata ragweithiol a chreadigol i arddangos Cymru fel cenedl flaenllaw ym maes darparu ymchwil iechyd a gofal.
  • Gweithio gyda phartneriaid prosiect i adeiladu naratif cydlynol o ansawdd uchel ynglŷn â’r cynnig Cymreig ar gyfer darparu ymchwil glinigol fasnachol yng Nghymru.
  • Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i weld mwy o welededd mewn digwyddiadau diwydiant cenedlaethol a rhyngwladol i farchnata Cymru fel cenedl i wneud ymchwil, cynhyrchu deunydd marchnata a briffiau ysgrifenedig i'r mynychwyr.
  • Arwain ar holl gyfathrebu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gefnogi astudiaethau ymchwil cenedlaethol.
  • Cydweithio â nifer o randdeiliaid ar draws y GIG, y llywodraeth a'r diwydiant i arddangos cryfderau ymchwil a nodi llysgenhadon brand ar gyfer ymchwil yng Nghymru.
  • Datblygu ac arwain ar gyfleoedd yn y cyfryngau, briffio uwch lefarwyr a chytuno ar negeseuon gyda’r cyfryngau.
Contract type: Cyfnod Penodol: 2 flynedd
Hours: Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Salary: Band 8b £63,150 - £73,379 a year per annum
Lleoliad: Caerdydd
Job reference:
070-AC085-0725
Closing date: