Helpu i lunio ymchwil iechyd y galon yng Nghymru

Mae problemau'r galon a'r cylchrediad fel trawiadau ar y galon a strôc yn effeithio ar filoedd o bobl yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn astudio pam mae'r cyflyrau hyn yn digwydd yn amlach mewn rhai ardaloedd nag eraill, a sut mae ffactorau lleol fel ansawdd aer, mannau gwyrdd, cyfle i fanteisio ar wasanaethau a llesiant cymunedol yn chwarae rôl.

Mae'r ymchwilwyr yn chwilio am aelodau o'r cyhoedd o bob rhan o Gymru i ymuno â phanel ymgysylltu. Nid oes angen unrhyw brofiad arbennig arnoch chi — dim ond diddordeb mewn iechyd y galon, yr amgylchedd neu les cymunedol. Bydd eich barn yn helpu i lywio'r ymchwil a gwneud yn siŵr ei fod yn adlewyrchu'r hyn sy'n bwysicaf i bobl a chymunedau yng Nghymru.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
  •  Nid oes angen unrhyw brofiad ymchwil blaenorol
  • Byddai'r ymchwilwyr yn croesawu pobl o bob rhan o Gymru, o ardaloedd gwledig a threfol
  • Anogir pobl sydd â phrofiad bywyd o broblemau gyda’r galon neu gylchrediad, naill eu hunain neu drwy ofalu am rywun, i gymryd rhan
  • Byddai diddordeb mewn iechyd, llesiant cymunedol neu'r amgylchedd yn ddefnyddiol
  • Hoffai'r ymchwilwyr gynnwys cymysgedd o oedrannau a chefndiroedd fel bod gwahanol safbwyntiau yn cael eu cynrychioli
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
  • Ymuno â chyfarfodydd a gweithdai ar-lein
  • Rhannu eich barn ar flaenoriaethau’r prosiect
  • Edrych ar ddeunyddiau drafft a chrynodebau clir
  • Rhoi adborth ar sut y dylid rhannu canlyniadau
Pa mor hir fydd fy angen?
  • Mae cymryd rhan yn para o hydref 2025 i wanwyn 2026
  • Un cyfarfod ar-lein rhagarweiniol (tuag awr)
  • Un gweithdy dilynol (tuag awr)
  • Sesiynau adborth un-i-un dewisol (hyd at awr yr un)
  • Rhywfaint o amser paratoi cyn cyfarfodydd (tuag awr)
  • Mae'r ymrwymiad cyffredinol tua phump i wyth awr dros chwe mis
Beth yw rhai o'r buddion i mi?

  • Cyfle i ddylanwadu ar ymchwil genedlaethol ar iechyd y galon yng Nghymru
  • Cyfle i rannu eich profiadau a'ch barn
  • Dysgu sut mae prosiectau ymchwil yn cael eu cynllunio a'u cynnal
  • Ennill sgiliau wrth adolygu a thrafod ymchwil iechyd
  • Cwrdd ag ymchwilwyr a chyfranwyr cyhoeddus eraill
  • Gweld sut mae eich mewnbwn yn helpu i lunio polisi, atal ac iechyd cymunedol
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).

Darllenwch ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.

Llenwch y ffurflen isod

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein ac wyneb yn wyneb

Sefydliad Lletyol:
Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm