Helpu i lywio ymchwil ar gyfreithiau fepio yn y DU

Mae Prifysgol Caerdydd yn gwahodd pobl ifanc 14–21 oed sydd â phrofiad o fepio i helpu i lunio ymchwil ar effaith deddfau fepio a thybaco newydd y DU.

Mae Prifysgol Caerdydd yn datblygu prosiect ymchwil i ddeall sut y bydd y cyfreithiau newydd yn y DU sy'n gwahardd fêps tafladwy o fis Mehefin 2025 a'r ddeddfwriaeth tybaco sydd ar ddod yn effeithio ar bobl ifanc. Mae Prifysgol Caerdydd yn chwilio am bobl ifanc 14–21 oed sydd â phrofiadau o fepio i ymuno â grwpiau bach ar-lein a helpu i lywio'r ymchwil.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?

•    Profiad o fepio, neu’n adnabod pobl eraill sy’n fepio
•    Yn barod i rannu’ch barn mewn grŵp trafod bach, anffurfiol ar-lein

Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Byddwch yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn trafodaeth grŵp ar-lein awr o hyd gyda nifer bach o bobl ifanc eraill (hyd at bedwar ym mhob grŵp).

Yn ystod y sesiwn, gofynnir i chi wneud y canlynol:
•    Rhannu’ch meddyliau ynghylch ein syniad ymchwil
•    Helpu i lywio’r cwestiynau rydym yn bwriadu eu gofyn i bobl ifanc mewn cyfweliadau yn y dyfodol 
•    Awgrymu ffyrdd y gallwn recriwtio pobl ifanc i gymryd rhan yn yr astudiaeth
•    Rhoi adborth ar sut rydym yn siarad am fepio a defnyddio nicotin
Nid oes angen i chi baratoi unrhyw beth na chael unrhyw wybodaeth arbennig. Byddwn yn arwain y drafodaeth ac yn egluro popeth yn glir.

Am ba hyd y byddwch fy angen?

Ar y cam hwn, rydym yn gofyn i chi roi awr o'ch amser yn unig i gymryd rhan mewn grŵp trafod ar-lein.

Beth yw rhai o'r buddion i mi?

Drwy gymryd rhan, cewch gyfle i wneud y canlynol:
•    Llywio ymchwil go iawn a allai ddylanwadu ar gyfreithiau a pholisïau am fepio a thybaco
•    Rhannu’ch barn a helpu ymchwilwyr i ddeall beth sy'n bwysig i bobl ifanc
•    Cael profiad o gymryd rhan mewn prosiect ymchwil
•    Datblygu sgiliau cyfathrebu, gweithio fel tîm a meddwl yn feirniadol
•    Cwrdd â phobl ifanc eraill a chyfrannu at rywbeth a allai wneud gwahaniaeth

Pa gefnogaeth sydd ar gael?
  • •    Esboniadau clir o’r ymchwil a’i diben
    •    Daperir cwestiynau’r drafodaeth yn ystod y sesiwn – nid oes angen i chi baratoi
    •    Amseru hyblyg
    •    Unigolyn cyswllt a enwir y gallwch ei e-bostio gydag unrhyw gwestiynau cyn neu ar ôl y sesiwn
    •    Cynnig taliad am amser o hyd at £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
    •    Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.

Cwblhewch y ffurflen isod

 

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein

Sefydliad Lletyol:
Prifysgol Caerdydd

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm