Helpwch i lunio dyfodol bwyd yn ysgolion uwchradd Cymru

Mae ymchwilwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru eisiau clywed gan bobl ifanc a rhieni am fwyd mewn ysgolion uwchradd. Bydd y prosiect yn edrych ar ba fwyd sydd ar gael, sut mae'n cael ei gyflwyno a beth mae dysgwyr yn ei fwyta yn ystod y diwrnod ysgol. 

Mae ymchwilydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy'n mynychu ysgol uwchradd yng Nghymru ar hyn o bryd, neu sydd wedi gadael yn ddiweddar, yn ogystal â rhieni neu ofalwyr plant sydd rhwng 11 ac 16 oed yn yr ysgol uwchradd. Bydd eich mewnbwn yn helpu i lunio ymchwil sydd â'r nod o wella bwyd ysgol ledled Cymru, gan ei wneud yn iachach, yn fwy blasus ac yn fwy hygyrch i bob dysgwr. 

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu? 
  • Nid oes angen unrhyw brofiad ymchwil blaenorol 
  • Pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sydd ar hyn o bryd yn mynychu ysgol uwchradd yng Nghymru neu sydd wedi gadael ysgol uwchradd yng Nghymru yn ddiweddar 
  • Rhieni neu ofalwyr plant rhwng 11 ac 16 oed sy'n mynychu ysgol uwchradd yng Nghymru 
  • Bod yn barod i rannu safbwyntiau a phrofiadau gonest am fwyd ysgol
Beth fydd gofyn i mi ei wneud? 
  • Cymryd rhan mewn sgwrs fer, anffurfiol yn unigol neu mewn grŵp, (tua 45 munud) 
  • Rhannu eich profiadau o fwyd mewn ysgolion uwchradd 
  • Siarad am y mathau o brydau rydych chi neu'ch plentyn yn eu dewis, rhesymau dros optio allan a syniadau ar gyfer gwella 
  • Helpu i lunio cwestiynau ymchwil a meysydd canolbwyntio'r prosiect
Pa mor hir fydd fy angen? 
  • Un cyfarfod fydd yn para tua 45 munud  
  • Nid oes angen paratoi ymlaen llaw 
  • Mae cyfanswm yr ymrwymiad amser yn llai nag awr 
  • Os caiff y prosiect ei ariannu, efallai y cewch eich gwahodd i barhau i gyfrannu yn ddiweddarach 
Beth yw rhai o'r buddion i mi? 
  • Rhannu eich profiadau i helpu i wella bwyd ysgol ledled Cymru 
  • Gwneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc a rhieni yn cael eu cynnwys mewn ymchwil a gwneud penderfyniadau 
  • Cyfrannu at newidiadau a allai wneud prydau ysgol yn iachach, yn fwy blasus ac yn fwy hygyrch 
  • Deall sut mae ymchwil yn gweithio a sut y gall eich barn ddylanwadu arno 
  • Dewis i aros yn rhan o'r prosiect os bydd yn derbyn cyllid 
Pa gefnogaeth sydd ar gael? 
  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol  
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth) 
  •  Edrychwch ar ein canllawiau i gael rhagor o wybodaeth am hyn.  
  • Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil. 

Cwblhewch y ffurflen isod 

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein (MS Teams)

Sefydliad Lletyol:
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm