Helpwch i lunio dyfodol ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Defnyddiwch eich safbwynt i helpu i benderfynu pa brosiectau ymchwil sy'n cael eu hariannu.
Mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn helpu ymchwilwyr i dyfu eu gyrfaoedd. Mae'r Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu yn grant personol sy'n rhoi cyfle i ymchwilwyr neilltuo amser i wneud ymchwil ochr yn ochr â'u gwaith arferol.
Byddwch yn darparu adborth amhrisiadwy ar geisiadau ac yn cyfrannu at y broses ddethol ar gyfer y Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu.
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
- Profiad o fod yn rhan o banel cyllido ac adolygu ceisiadau am gyllid.
- Y gallu i werthuso ceisiadau a darparu adborth adeiladol.
- Yn gyfarwydd â phrosesau cyllido yn y sectorau iechyd neu ofal cymdeithasol.
- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
- adolygu ceisiadau am gyllid a rhoi eich barn a'ch adborth. Bydd hyn yn helpu i benderfynu pa brosiectau ymchwil sy'n derbyn cyllid.
- cymryd rhan mewn cyfarfod panel undydd (wyneb yn wyneb neu rithwir) ar 10 Rhagfyr 2025.
- bod mewn cyn-gyfarfod am awr i baratoi ar gyfer cyfarfod y panel.
- Pa mor hir fydd fy angen?
- Gofynnir i chi fod yn bresennol ym mhrif gyfarfod y panel, a gynhelir rhwng 09:00 a 17:00 ar 10 Rhagfyr.
- Bydd angen i chi fod mewn cyn-gyfarfod am awr cyn y panel.
- Bydd gofyn i chi adolygu'r ceisiadau cyn y cyfarfod, ac rydym yn rhagweld y bydd hyn yn cymryd tua diwrnod.
- Beth yw rhai o'r buddion i mi?
- Profiad gwerthfawr o brosesau adolygu a chyllido panel o fewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
- Cyfrannu at benderfyniadau sy'n cefnogi ymchwil ac ymchwilwyr yng Nghymru yn y dyfodol.
- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
- Cynnig taliad am amser o £150.00 (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
- Bydd tîm y Gyfadran yn darparu cefnogaeth a bydd yn penodi person cyswllt i'ch tywys drwy'r broses.
- Cyn y panel, byddwch yn cwrdd â thîm y Gyfadran a fydd yn esbonio'r hyn sy'n ddisgwyliedig ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.
Llenwch y ffurflen isod
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein ac yn bersonol
Sefydliad Lletyol:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm