Helpwch i lunio ymchwil i gefnogi pobl ifanc sy’n hunan-niweidio neu sy’n wynebu risg o hunan-niweidio

Beth am gymryd rhan mewn ymchwil bwysig i gefnogi pobl ifanc sy’n hunan-niweidio neu sy’n wynebu risg o hunan-niweidio?

Gall hunan-niweidio effeithio ar gymaint ag un o bob pedwar o bobl ifanc. Ysgolion yn aml yw’r lleoedd cyntaf maen nhw’n troi atynt am gefnogaeth. Rydym eisiau archwilio a allai cynllunio diogelwch, offeryn syml ond pwerus sy’n helpu pobl i ymdopi mewn argyfwng, gael ei integreiddio mewn ysgolion i gefnogi pobl ifanc sy’n hunan-niweidio neu sy’n wynebu risg  o hunan-niweidio’n well.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?

The project is looking for young people (aged 18–25) who:

  • Have personal experience of self-harm, either now or in the past.
  • Are willing to share their views on research about how schools might be able to use safety planning.
What will I be asked to do?

Mae’r prosiect yn chwilio am bobl ifanc (18–25 oed) sydd:

  • Â phrofiad personol o hunan-niweidio, naill ai nawr neu yn y gorffennol.
  • Yn barod i rannu eu barn ar ymchwil o ran sut y gallai ysgolion o bosibl ddefnyddio cynllunio diogelwch.
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
  • Hyd at dri chyfarfod ar-lein (tuag awr yr un) rhwng nawr a mis Mawrth 2026.
  • Os yw’r prosiect yn cael cyllid, byddai cymryd rhan yn parhau o fis Medi 2026 am tua dwy flynedd, gyda chyfarfodydd misol yn para rhwng awr a dwy awr (ar-lein neu wyneb yn wyneb). 

Weithiau efallai y bydd rhywfaint o ddarllen ymlaen llaw (tua awr)

Beth yw rhai o’r buddion i mi?
  • Bydd eich llais yn cael ei glywed, bydd eich profiad bywyd yn llunio’n uniongyrchol sut mae ysgolion yn cefnogi pobl ifanc sy’n hunan-niweidio.
  • Datblygu sgiliau a magu hyder, trwy gyfrannu at gyfarfodydd, rhoi adborth, a gweld sut mae ymchwil yn gweithio’n ymarferol.
  • Cymorth a hyfforddiant – bydd arweinydd y prosiect yn cynnig arweiniad trwy gydol y prosiect. Mae’r tîm wedi ymrwymo i ddull sy’n seiliedig ar drawma, gan sicrhau bod pobl yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu parchu a’u cefnogi.
  • Profiad ar gyfer eich Curriculum Vitae (CV).
 Pa gefnogaeth sydd ar gael?

  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau’r wladwriaeth).
  • Bydd aelod o dîm yr astudiaeth yn eich cefnogi chi a bydd yn cysylltu â chi cyn y cyfarfod fel y gallwch chi ofyn unrhyw gwestiynau am y prosiect.

Darllenwch ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn. 

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.

Llenwch y ffurflen isod

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Online

Sefydliad Lletyol:
Cardiff University - DECIPHer (Development, Evaluation, Complexity, and Implementation in Public Health Improvement)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm