
HRA yn lansio strategaeth newydd i gefnogi cenadaethau iechyd a thwf yn y DU
10 Gorffennaf
Mae’r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) wedi lansio strategaeth tair blynedd newydd sy’n amlinellu sut y bydd yn cefnogi cenadaethau iechyd a thwf llywodraeth y DU drwy sicrhau ei bod yn haws gwneud ymchwil y gall pobl ymddiried ynddi.
Mae’r strategaeth yn cyd-fynd â chynlluniau’r llywodraeth i roi hwb i dwf economaidd ac adeiladu GIG sy’n addas ar gyfer y dyfodol, gan ganolbwyntio ar dri maes allweddol:
- Cefnogi twf gwyddorau bywyd yn y DU drwy sicrhau mai’r DU yw’r lle hawsaf i wneud ymchwil iechyd
- Lleihau anghydraddoldebau iechyd drwy sicrhau bod ymchwil yn cael ei gwneud gyda phawb ac er budd pawb
- Cynyddu effaith ymchwil drwy symleiddio prosesau a thorri costau gweinyddol
Bydd HRA yn cyflawni’r nodau hyn drwy adeiladu sylfeini digidol, ymwreiddio cynhyrchiant, gweithio mewn partneriaeth ledled y DU a meithrin ymddiriedaeth mewn ymchwil.
I gael rhagor o wybodaeth am y strategaeth hon, ewch i wefan HRA.