Pecyn hyfforddiant un awr mewn safonau’r DU ar gyfer cynnwys y cyhoedd

Fformat:

Mae’r cwrs yn galw am wylio fideo a chwblhau gweithlyfr sy’n cyd-fynd ag ef y gellir ei lawrlwytho a’i argraffu neu ei gwblhau ar-lein.

Amlinelliad o’r Cwrs:

Mae’r cwrs hwn ar gyfer *arweinwyr cynnwys y cyhoedd, y gymuned ymchwil, ymchwilwyr, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gofal cymdeithasol ac **aelodau’r gymuned cynnwys y cyhoedd.

Mae’r fideo yn cynnwys trosolwg o waith datblygu Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd, gan edrych yn fanwl ar y safonau unigol a’r ffordd o’u rhoi ar waith yn y byd go iawn. 

Mae’r gweithlyfr wedi’i seilio ar Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd. Gallwch chi ddefnyddio’r gweithlyfr fel unigolyn neu fel grŵp i roi’r safonau ar waith yn eich prosiect ymchwil, eich grŵp neu’ch strategaeth cynnwys y cyhoedd chi.

Byddwch chi’n derbyn tystysgrif unwaith y byddwch chi wedi llenwi’r ffurflen adborth, sydd i’w chael trwy ddolen yn y gweithlyfr.

* I arweinwyr cynnwys y cyhoedd, y gymuned ymchwil, ymchwilwyr, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gofal cymdeithasol, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddeall sut i ddefnyddio’r safonau i asesu’ch cynlluniau a’ch gweithgareddau ar gyfer cynnwys y cyhoedd ac i nodi sut i’w gwella 

** I aelodau’r gymuned cynnwys y cyhoedd, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddefnyddio’r safonau i asesu cryfderau a gwendidau’ch profiad o gael eich cynnwys mewn ymchwil.

Deilliannau dysgu:

  • Gwybod sut i ddefnyddio’r safonau fel fframwaith i fyfyrio ynglŷn â’ch gweithgareddau a’u cynllunio 
  • Deall sut i gynllunio a gwella ansawdd a chysondeb gwaith cynnwys y cyhoedd ym mhrosiectau eich sefydliad ac mewn prosiectau ymchwil
  • Gallu defnyddio’r safonau wrth fyfyrio ynglŷn â’ch profiad eich hun o gael eich cynnwys fel aelod o’r cyhoedd
  • Derbyn cyfarwyddiadau i adnoddau eraill i gael gwybodaeth, i’w defnyddio ac i gyfeirio atyn nhw

Rydych chi nawr yn barod i gymryd rhan

Cyn ichi wylio’r hyfforddiant, lawrlwythwch y gweithlyfr