Woman with brown hair sat on floor hanging her head

Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyfrannu tuag at ymchwil i effeithiau trais fel rhan o fuddsoddiad gwerth £19 miliwn

5 Awst

Mae’r Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei benodi yn gyd-ymchwilydd i gonsortiwm sydd yn archwilio’r modd y mae trais yn achosi niwed i iechyd meddyliol a chorfforol. 

Mae’r consortiwm ymchwil yn un o dri prosiect mawr sydd wedi sicrhau cyllid o fuddsoddiad gwerth mwy na £19 miliwn oddi wrth Bartneriaeth Ymchwil Atal y DU (UKPRP).

Grŵp yw’r UKPRP sydd yn cynnwys 12 corff ariannu, gan gynnwys Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a’i fwriad yw cyfrannu tuag at ddeall a dylanwadu ar ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sydd yn effeithio ar iechyd. 

Bydd y rhaglen ymchwil, o dan yr enw VISION (Violence and its impacts on health), yn gweld Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyfrannu ochr yn ochr gydag Uned Atal Trais Cymru a rhaglenni atal trais eraill ledled y wlad.

Mae partneriaid y consortiwm yn cynnwys academyddion, pobl broffesiynol ac ymarferwyr a fydd yn hyrwyddo mesur a dadansoddi data trais  trwy arolygon a data gweinyddol. Wedyn bydd y data hwn yn sail i theori, polisi ac ymarfer proffesiynol.

Dyma ddywedodd yr Athro Bellis: “Mae’r niwed a achosir i lawer o ddioddefwyr trais yn effeithio nid yn unig ar eu hiechyd corfforol ond gall hefyd arwain at niwed hir dymor i iechyd meddwl y dioddefwyr, eu teuluoedd a’u cyfeillion. 

“Mae’n hanfodol ein bod yn cael gwell dealltwriaeth o’r modd y gellir atal trais er mwyn gwella iechyd y boblogaeth. Bydd y gwaith hwn yn rhoi i ni fwy o wybodaeth ynghylch beth sydd fwyaf effeithiol ar gyfer atal trais ac yn ein galluogi i ddefnyddio hyn i ddwyn newidiadau i bolisi ac ymarfer, gwella iechyd y boblogaeth a lleihau anghyfartaledd iechyd.

“Bydd y cyllid  a gyfranwyd gan yr UKPRP yn ein galluogi i gyflawni gwaith gwerthfawr gan drawsnewid y tirlun data ar drais, a maes o law yn cyfrannu tuag at atal trais a lleihau’r effeithiau dinistriol hyn ar unigolion ac yn aml ar gymunedau cyfan.”

Ychwanegodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o fod yn aelod o UKPRP, partneriaeth unigryw sydd yn ein galluogi i gefnogi ymchwil atal hanfodol trwy gonsortia fel VISION.”

Mae VISION a dwy raglen arall wedi derbyn cefnogaeth bum mlynedd o ail gylch ariannu UKPRP. Yn y cylch cyntaf –  cyhoeddwyd y canlyniadau ym mis Mai 2019 - dyfarnwyd cyllid i bump allan o wyth prosiect oedd yn cynnwys ymchwilwyr o  brifysglion a sefydliadau iechyd ledled Cymru. 

I ganfod rhagor o wybodaeth am y fenter, ewch i wefan UKPRP.