Pa effaith y mae newidiadau a ysgogwyd gan COVID-19 mewn arferion gwaith wedi'i chael ar allyriadau nwyon tŷ gwydr?

Aeth y newidiadau mewn arferion gwaith dros y pandemig drwy sawl cyfnod gwahanol: y cyfnod 'cyfyngiadau symud' cychwynnol, cyfnod o lacio rhai cyfyngiadau, a chyfnod tymor hwy pan ffafrid gweithio gartref (WFH) os yn bosibl ond dychwelodd llawer o agweddau eraill ar fywyd bron iawn i normalrwydd. Defnyddiwyd dwy ffrwd waith gyfochrog gennym i gyfrannu data ar gyfer yr adroddiad hwn: asesiad cylch bywyd lefel uchel yn seiliedig ar ddata cenedlaethol y DU, ac adolygiad cyflym o lenyddiaeth. Ein nod oedd disgrifio tueddiadau mewn effeithiau amgylcheddol, yn benodol o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHGE) sy'n ymwneud â defnyddio ynni ac ymddygiad cymudo, yn ystod y pandemig. Cynhaliwyd y gwaith hwn ar gyfer Is-grŵp Amgylchedd TAG (TAG-E) Llywodraeth Cymru.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00031