Effaith y pandemig COVID-19 ar blant ac oedolion anabl ar draws parthau bywyd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: Map Cyflym o Dystiolaeth

Y cefndir i hyn yw y credwyd yn ystod pandemig COVID-19 fod oedolion a phlant anabl dan anfantais ac yn dioddef yn anghymesur ar draws meysydd addysg, safonau gweithio a byw, iechyd, cyfiawnder a diogelwch personol a chyfranogi. Penderfynwyd adolygu astudiaethau mewn "map tystiolaeth gyflym" ac archwiliodd y gwaith hwn astudiaethau o don gyntaf y pandemig yn 2020. Pan oedd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal, edrychwyd ar 68 o astudiaethau.

Wrth edrych ar iechyd, y pethau a grybwyllwyd amlaf oedd iechyd meddwl, mynediad at ofal iechyd, a chanlyniadau iechyd.

Prin oedd y dystiolaeth a ganfuwyd ar gyfer y maes addysg o'i gymharu â'r lleill yr edrychwyd arnynt.

Edrychwyd ar yr adolygiad hwn mewn cysylltiad â'r rhai yng Nghymru. Edrychodd yr adolygiad ar arolygon yn hytrach na chyfweliadau unigol neu grwpiau ffocws.

Canfu'r adolygiad dystiolaeth gyfyngedig ac edrychodd ar astudiaethau a oedd yn ymwneud â phobl yn gyffredinol a oedd yn anabl yn hytrach na'r rhai â namau penodol. Felly, mae'n bosibl na chafodd pobl â namau penodol eu hystyried, a chydnabyddir bod hyn yn wendid yn yr adolygiad hwn.

Canfu'r adolygiad dystiolaeth gyfyngedig fod anghenion y rhai a oedd yn anabl yn cael eu peryglu yn ystod y don gyntaf o COVID-19 o leiaf. Yn anffodus, er gwaethaf y ffaith bod yr adolygiad hwn yn canolbwyntio ar anghenion pobl yng Nghymru, dim ond 2 o'r astudiaethau oedd yn ymwneud â'r rhai a oedd yn anabl yng Nghymru.

Roedd diffyg tystiolaeth o ran y meysydd cyfiawnder a diogelwch personol a thystiolaeth gyfyngedig ym maes addysg.

Gwendid arall a gydnabyddir ynghylch yr adolygiad hwn yw, oherwydd ei fod yn edrych yn bennaf ar astudiaethau yn y don gyntaf a wnaed yn gyflym, nad oedd yr astudiaethau wedi cael cyfle i gael eu "hadolygu gan gymheiriaid" (proses lle mae'r rhai sy'n arbenigwyr yn y pwnc yn edrych ar y papurau o astudiaeth a'i chanlyniadau ac yn rhoi sylwadau ar y papurau cyn iddynt gael eu cyhoeddi; yna caiff awduron y papurau gyfle i ailysgrifennu eu papurau gan ystyried y sylwadau a gafwyd).

Gwnaed yr adolygiad hwn yn gyflym i lywio penderfyniadau polisi ond mae angen cadw gwendidau’r adolygiad a gydnabuwyd mewn cof. Roedd yn canolbwyntio ar ble yr oedd y rhan fwyaf o dystiolaeth – iechyd a mynediad at iechyd, mewn "adolygiad cyflym" manylach.

Roedd yr adolygiad cyflym hwn yn cynnwys 19 o astudiaethau yn y DU, ac adolygwyd 18 ohonynt gan gymheiriaid. Roedd deg yn feintiol sy'n golygu eu bod yn cynnwys ystadegau a rhifau. Roedd pump yn ansoddol a oedd yn cynnwys siarad â phobl mewn cyfweliadau, ac roedd 4 yn ddulliau cymysg a oedd yn cynnwys gwahanol ddulliau ymchwil.

Roedd 8 yn cynnwys oedolion a 5 yn cynnwys pobl â namau a 7 gyda phlant. Roedd y rhain i gyd yn cynnwys plant â namau penodol ac roedd 4 yn cynnwys oedolion a phlant. Roedd 3 o'r astudiaethau hyn gyda phobl ag anawsterau dysgu ac roedd 3 astudiaeth yn ystyried pobl anabl fel grŵp cyfan. Nid oedd dim un o'r astudiaethau hyn yn canolbwyntio'n benodol ar bobl yng Nghymru.

Mewn 7 astudiaeth tynnwyd cymhariaeth â naill ai’r cyfnod cyn y pandemig neu â phobl anabl eraill. Ni ellir tybio bod yr astudiaethau yn yr adolygiad hwn yn ystyried yr holl faterion a oedd yn ymwneud â phobl o ddiwylliannau neu gefndiroedd eraill.

Nodwyd pryderon ynghylch problemau yr oedd pobl anabl yn eu hwynebu o ran cael mynediad at wasanaethau. Roedd adroddiadau bod y rhai a oedd yn anabl yn ei chael hi ddwywaith mor anodd ag yr oedd rhai nad oeddent yn anabl i gael mynediad at wasanaethau yn ystod ton gyntaf y pandemig. Roedd adroddiadau am wasanaethau o bell yn gymysg ac roedd adroddiadau bod diffyg apwyntiadau wyneb yn wyneb a'r defnydd o fasgiau wyneb yn ei gwneud yn anodd iawn i'r rhai â cholled clyw.

Yn ystod ton gyntaf y pandemig, nid oedd y rhai a oedd yn anabl yn fwy tebygol o fod â COVID-19 ond roeddent yn fwy tebygol o orfod mynd i’r ysbyty ar ôl cael COVID-19 a phan oeddent yn yr ysbyty roeddent yn fwy tebygol o fod angen ymyriadau anadlol neu ofal dwys. Roedd yr arhosiad cyfartalog yn yr ysbyty dri diwrnod a hanner yn hirach nag yr oedd i bobl eraill.

Roedd cyfraddau marwolaethau yn uwch ymhlith y rhai a oedd yn anabl ac roedd anghydraddoldeb o ran mynediad at ofal iechyd meddwl. Roedd llawer o'r astudiaethau hyn o don gyntaf y pandemig ac roedd ychydig o'r ail don. Mae angen pendant am fwy o ymchwil ac am waith ar sut mae gwasanaethau'n adfer ar ôl y pandemig.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
REM00025