Effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd pobl anabl ac ar eu gallu i gael gafael mewn gofal iechyd: adolygiad cyflym

Effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd pobl anabl ac ar eu gallu i gael gafael mewn gofal iechyd

Roedd yr adolygiad cyflym hwn yn cynnwys 19 o astudiaethau’r DU, 18 ohonyn nhw wedi’u hadolygu gan gymheiriaid. Roedd deg yn feintiol, sy’n golygu eu bod yn cynnwys ystadegau a niferoedd. Roedd pump yn ansoddol a oedd yn golygu siarad â phobl mewn cyfweliadau, ac roedd 4 yn ddulliau cymysg a oedd yn cynnwys gwahanol ddulliau ymchwil.

Roedd wyth yn cynnwys oedolion, gyda 5 yn cynnwys pobl â namau a 7 gyda phlant. Roedd pob un o’r rhain yn cynnwys plant â namau penodol ac roedd 4 yn cynnwys oedolion a phlant. Roedd tair o’r astudiaethau hyn gyda phobl ag anawsterau dysgu ac roedd 3 astudiaeth yn ystyried pobl anabl fel grŵp cyfan. Nid oedd yr un o’r astudiaethau hyn yn canolbwyntio ar bobl yng Nghymru’n benodol.

Roedd 7 astudiaeth yn cymharu naill ai amseroedd cyn y pandemig neu bobl anabl eraill. Ni ellir cymryd bod yr astudiaethau yn yr adolygiad hwn wedi ystyried pob mater yn ymwneud â’r rheini o ddiwylliannau neu gefndiroedd eraill.

Nodwyd pryderon ynglŷn â’r problemau roedd pobl anabl wedi’u hwynebu wrth geisio cael gafael mewn gwasanaethau. Adroddwyd bod y rheini a oedd yn anabl wedi’i chael hi cymaint ddwywaith yn fwy anodd na’r rheini oedd ddim yn anabl i gael gafael mewn gwasanaethau yn ystod ton gyntaf y pandemig. Roedd yr adroddiadau ynglŷn â gwasanaethau o bell yn gymysg ac, yn ôl rhai adroddiadau, roedd diffyg apwyntiadau wyneb yn wyneb a defnyddio masgiau wyneb wedi’i gwneud hi’n anodd iawn i’r rheini oedd wedi colli eu clyw.

Yn ystod ton gyntaf y pandemig, nid oedd y rheini a oedd yn anabl yn fwy tebygol o gael COVID-19 ond roedden nhw’n fwy tebygol o orfod mynd i’r ysbyty pan roedden nhw’n ei ddal a, phan roedden nhw yn yr ysbyty, roedden nhw’n fwy tebygol o fod angen ymyriadau anadlol neu o gael eu derbyn i ofal dwys. Roedd yr amser roedden nhw’n aros yn yr ysbyty ar gyfartaledd dri diwrnod a hanner yn hirach na phobl eraill.

Roedd cyfraddau marwolaeth yn uwch i’r rheini a oedd yn anabl ac roedd y gofal iechyd meddwl a oedd ar gael yn anghyfartal. Roedd llawer o’r astudiaethau hyn o don gyntaf y pandemig ac roedd rhai o’r ail don. Mae’n bendant bod angen gwneud mwy o ymchwil a gwneud gwaith ar sut y mae gwasanaethau’n adfer yn sgil y pandemig.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00025