Ydy mesurau atal a rheoli haint wedi arwain at unrhyw ddeilliannau niweidiol i breswylwyr a staff cartrefi gofal a gofal cartref?

Ydy mesurau i ddiogelu preswylwyr a staff cartrefi gofal rhag COVID wedi cael effeithiau negyddol?

Wrth ofalu am bobl agored i niwed a phobl hŷn, mae’n hanfodol gweithio mewn ffordd sy’n eu diogelu nhw a’r gweithlu rhag haint. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod rhai o’r mesurau a gymerwyd i ddiogelu preswylwyr a staff rhag COVID-19 wedi cael effaith negyddol (ar iechyd meddwl, er enghraifft).

Mae’r adolygiad hwn yn edrych ar y dystiolaeth a ddarparwyd mewn 15 astudiaeth ynglŷn ag effeithiau anfwriadol neu ddieisiau arferion a roddwyd ar waith i ddiogelu staff a phreswylwyr yn ystod y pandemig. 

Yn ystod cyfyngiadau COVID-19, effeithiwyd yn negyddol ar weithrediad a llesiant meddwl ac ymddygiad preswylwyr mewn cartrefi gofal. Daeth preswylwyr i deimlo’n fwy isel, gorbryderus ac unig. Daeth staff gofal i deimlo mwy o straen, gyda llwyth gwaith mwy, ac roedden nhw mewn cyfyng-gyngor o ran dilyn gweithdrefnau newydd neu ddarparu’r gofal gorau.

Nid oedd gweithdrefnau i ddiogelu rhag COVID wedi’u datblygu’n dda ar ddechrau’r pandemig. Mae tystiolaeth o 2021 yn awgrymu y gallai teulu a gweithwyr meddygol proffesiynol ymweld â chartrefi gofal, cyn belled â’u bod yn dilyn gweithdrefnau.

Dim ond un astudiaeth ddaeth i law a oedd yn edrych ar y sefyllfa i bobl sy’n derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain ac felly mae’n anodd dod i gasgliadau o hon.

Nid yw unrhyw astudiaethau cyhoeddedig wedi adrodd ar gostau neu gost-effeithiolrwydd mesurau diogelu.

Ers mis Mawrth 2020, bu llawer o newidiadau i ganllawiau’r llywodraeth ynglŷn â gweithdrefnau i gadw’r boblogaeth yn ddiogel rhag niwed COVID-19. Mae polisïau’n amrywio yn ôl gwlad ac o fewn y DU. Mae materion pwysig fel polisïau ymweld â chartrefi gofal wedi newid yn y fath ffordd fel bod staff cartrefi gofal wedi’i chael hi’n anodd cadw i fyny â’r newidiadau.

Mae’r adolygiad yn dangos:

  • y dylai polisïau i ddiogelu preswylwyr a staff fod yn glir, yn fyr ac yn bwrpasol, a bod yn addas i’r cartref dan sylw
  • bod angen mwy o ragfeddwl i sicrhau bod yna ddigon o staff ar gael ac i leihau’r baich ar staff unigol
  • bod angen cydbwyso cyfyngiadau, fel cyfyngu ar ymweliadau, â chefnogaeth ychwanegol i breswylwyr
  • bod angen brys am fwy o ymchwil o ansawdd gwell yn y maes hwn, yn enwedig lle rhoddir gofal gartref

Mae yna rywfaint o dystiolaeth i ddangos cysylltiad rhwng mesurau diogelu a gymerwyd a phrofiadau negyddol, ond ni ellir tybio eu bod yn gysylltiedig. Ar y cyfan, isel yw ansawdd y dystiolaeth sydd ar gael oherwydd y dulliau a ddefnyddiwyd.

Darllenwch yr adroddiad llawn neu weld y wybodlen

 

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00018