Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau/arloesiadau sy'n berthnasol i gyd-destun GIG Cymru i gefnogi recriwtio a chadw staff clinigol.

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn profi prinder gweithlu acíwt ym mhob disgyblaeth, ar adeg pan fo amseroedd aros ar eu huchaf erioed ac mae ôl-groniad cynyddol yn deillio o bandemig COVID-19. Nod yr Adolygiad Cyflym hwn oedd archwilio effeithiolrwydd ymyriadau neu arloesiadau sy'n berthnasol i gyd-destun GIG Cymru i gefnogi recriwtio a chadw staff clinigol. Mae'r adolygiad yn seiliedig ar ganfyddiadau'r adolygiadau presennol a ategir gan werthusiad manylach o astudiaethau sylfaenol a gynhwyswyd a gynhaliwyd yn y DU neu Ewrop.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00028