Integreiddio trafnidiaeth ac iechyd; polisi, ymarfer ac ymchwil er budd iechyd y boblogaeth

Prif Negeseuon

Cafodd y prosiect hwn ei ddatblygu yn 2017.  Ei nod oedd gwella dealltwriaeth o'r cysylltiadau rhwng trafnidiaeth ac iechyd yng Nghymru ac ar draws y byd.  Pan ddaeth pandemig COVID-19 i'r amlwg ym mis Rhagfyr 2019, roedd newidiadau enfawr mewn ymddygiad teithio oherwydd cyfnodau clo a gweithio gartref, a dechreuodd pobl gerdded a beicio mwy fel ffordd o wneud ymarfer corff. Mae hyn wedi golygu mai un o brif effeithiau'r COVID-19 fu newid y ffordd y mae pobl yn teithio ac yn meddwl am deithio.  

  • Mae trafnidiaeth, a sut rydym yn dewis teithio, yn cael ei effeithio gan, ac yn effeithio ar ein hiechyd.  Ond, ychydig iawn o'r gwaith am benderfyniadau trafnidiaeth sy'n ystyried iechyd, ac ychydig iawn o waith iechyd cyhoeddus ac ymchwil sy'n ystyried trafnidiaeth a sut mae iechyd yn effeithio ar hyn. Er enghraifft, mae trafnidiaeth yn achosi pob anaf traffig ar y ffyrdd a dwy ran o dair o lygredd aer, sy'n achosi clefyd anadlol a chardiofasgwlaidd, ymhlith eraill.  Mae rhai pobl hefyd yn gallu cael mynediad i wahanol fathau o gludiant yn haws na phobl eraill. 
  • Ledled y byd, ym mis Tachwedd 2021 gwelwyd COP-26 yn Glasgow, y digwyddiad byd-eang diweddaraf i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.  Ceir yw un o brif gynhyrchwyr nwyon tŷ gwydr sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Mae allyriadau ar eu huchaf ar gyfer ceir sy'n gwneud teithiau byr iawn oherwydd bod yr injan yn oer.  Y teithiau ceir byr hyn sydd hefyd yn annog pobl i beidio cerdded neu feicio i siopau neu ysgolion lleol oherwydd "perygl traffig"; felly maen nhw'n annog pobl i beidio â bod yn egnïol a chynyddu niwed iechyd o lygredd, yn ogystal â chyfrannu at yr argyfwng hinsawdd 
  • Ym mis Chwefror 2022, ymosododd Rwsia ar Wcráin. Ynghyd â llawer o effeithiau eraill, mae hyn yn arwain at bryderon ynghylch mynediad at danwydd ac yna cynyddu costau tanwydd.  Gofynnwyd i lywodraethau ledled y byd weithredu ar hyn. Roedd y gwahaniaeth mewn dulliau yn bwysig; roedd rhai yn torri treth tanwydd (DU), eraill yn cynnig cardiau tanwydd (Califfornia). Yn Seland Newydd, torrwyd cost trafnidiaeth gyhoeddus.  Mae'r effeithiau ar yr hinsawdd a'r 'neges' y mae hyn yn ei anfon at bobl yn bwysig i'w hystyried.  
  • Yng Nghymru, mae ymdrechion yn cael eu gwneud i newid y ffordd rydym yn teithio ac i newid y ffordd rydym yn meddwl am bwy sydd 'fwyaf' bwysig wrth deithio.  Mae cerdded a beicio yn cael eu hystyried yn bwysicach na cheir, mae teithio llesol yn cael ei ddatblygu a thrafnidiaeth gyhoeddus yn gwella.  Mae'n bosibl mai cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya yw'r ymyrraeth iechyd cyhoeddus bwysicaf ers y gwaharddiad ysmygu; yn y tymor hwy, gall fod yn fwy na manteision y gwaharddiad ysmygu. 
Wedi'i gwblhau
Research lead
Dr Sarah J Jones
Swm
£94,235.04
Statws
Wedi’i gwblhau
Dyddiad cychwyn
1 Ebrill 2018
Dyddiad cau
31 Mawrth 2022
Gwobr
NHS Research Time Award
Cyfeirnod y Prosiect
CRTA-17-34