a_women_in_pink_in_a_wheelchair_next_to_a_white_table

Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth 2025

22 Chwefror

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, rydym yn clywed bedwar ymchwilydd yr ydym wedi'u cefnogi rhywfaint o'u gwaith diweddar.

O ddadansoddi poblogaethau i bodlediadau i arddangosfeydd lluniau, hyrwyddo lleisiau sydd wedi ymddieithrio a chanoli profiadau bywyd, mae eu straeon yn dangos yr amrywiaeth o astudiaethau yr ydym yn falch o'u cefnogi i wella bywydau pobl a chleifion ledled Cymru.

Nodi lleisiau pobl ifanc sy'n gadael gofal

Mae Dr Ceryl Teleri Davies yn Ddarlithydd mewn Gwyddorau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor ac yn aelod o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae hi'n defnyddio’i phrofiad proffesiynol fel gweithiwr cymdeithasol i lywio ei hymchwil, gan gynnwys ei hastudiaeth ddiweddar a oedd yn archwilio pam y gall oedolion ifanc o bob rhan o Gymru ymddieithrio o wasanaethau cymorth ar ôl iddynt adael gofal. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys podlediad, Care Matters, yn cynnal trafodaeth â ymadawyr gofal ifanc.

Nod yr astudiaeth oedd deall pam mae pobl ifanc yn ymddieithrio o gefnogaeth, gan ddefnyddio'r canfyddiadau hyn i ddatblygu pecyn cymorth i ymgysylltu â phobl sy'n gadael gofal mewn ffordd fwy effeithiol.

Dywedodd Dr Davies: "Mae lleisiau pobl sydd wedi ymddieithrio'n dueddol o fod ar goll o ymchwil, ac roedd yr astudiaeth hon yn gyfle cyffrous i ddeall yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i ymadawyr gofal, er mwyn datblygu system fwy effeithiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Arddangosfa hel atgofion wedi’i chynllunio ar y cyd â phreswylwyr gofal niwro

Mae Dr Julie Latchem-Hastings yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd. Mae ei hastudiaeth bresennol, FEAST (Bwydo, Bwyta ac Yfed ym maes Gofal Niwrolegol: Rhannu Ymarfer i Drawsnewid Gofal), yn archwilio rôl bwyd yn y profiad gofal mewn lleoliadau gofal niwrolegol hirdymor. Mae ansawdd bwyd a phrofiadau adegau prydau bwyd wedi bod yn anfoddhaol ers tro, er bod preswylwyr yn nodi eu bod yn ganolog i ansawdd eu bywydau.

Cynhaliodd yr astudiaeth gyfweliadau â phreswylwyr gofal niwro hirdymor a staff yn archwilio profiad adegau prydau bwyd a sut y mae modd defnyddio bwyd i wella llesiant. Cynhaliwyd gweithdai gyda phreswylwyr a wnaeth gynllunio gwledd "Gŵyl y Cynhaeaf," a ddarparwyd gan staff arlwyo y gwnaeth trigolion, aelodau o staff ac aelodau o'r teulu ei fwynhau. Yn fwyaf diweddar, cynhaliwyd arddangosfa o luniau yn dangos canfyddiadau allweddol yr astudiaeth am fwyta â chymorth, wedi'i chynllunio ar y cyd â phreswylwyr ac aelodau o staff. Gwnaeth yr arddangosfa greu diddordeb sylweddol ymhlith cydweithwyr academaidd, cyllidwyr ymchwil a chysylltiadau'r GIG, ac mae rhagor o arddangosfeydd wedi'u cynllunio eleni. 

Agor y drws i ymchwil ymhlith cymunedau Sipsiwn a Theithwyr

Mae Sarah Parry yn ymchwilydd am y tro cyntaf ac roedd ei hastudiaeth yn archwilio'r hyn sy’n rhwystro ac yn hwyluso bwydo ar y fron ar gyfer mamau Sipsiwn a Theithwyr, cymunedau y mae hi wedi gweithio gyda nhw'n helaeth fel Ymwelydd Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. 

Mae tua 80% o famau yn y DU yn cychwyn bwydo ar y fron, o'i gymharu â 63% yng Nghymru, ond dim ond 3% o famau Sipsiwn a Theithwyr sy’n gwneud hynny. Trwy gyfweliadau yn trafod eu teimladau a'u pryderon ynghylch bwydo ar y fron, dechreuodd themâu cyffredin ddod i'r amlwg. Gall gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n eu rhwystro a’u hwyluso alluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i ddatblygu mentrau hyrwyddo bwydo ar y fron priodol, yn ogystal â chael effaith ar ddyluniad safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.

Dywedodd Sarah: "Mae fy astudiaeth ymchwil gyntaf wedi cael effaith ddofn arnaf i, gan danio angerdd gwirioneddol dros ymchwil. Ers cwblhau'r astudiaeth, mae menywod eraill wedi gofyn a gawn nhw gymryd rhan, felly efallai y bydd yn agor y drysau ar gyfer rhagor o ymchwil yn y dyfodol."  

Ailfeddwl amlafiachedd i wella gofal cleifion

Mae’r Athro Rhiannon Owen yn Athro Ystadegau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac yn aelod o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Nod ei hastudiaeth bresennol, Ailfeddwl Polisi Iechyd mewn Amlafiachedd (REMIT) yw datblygu dulliau newydd o asesu triniaethau ar gyfer pobl sy'n byw gyda mwy nag un cyflwr hirdymor.

Bydd yn edrych ar sut mae afiechydon yn cronni mewn cleifion dros amser, eu heffaith, ac a yw cefndiroedd economaidd-gymdeithasol cleifion yn dylanwadu ar amlafiachedd, yn ogystal ag a yw'n bosibl nodi cyfleoedd i sgrinio ar ei gyfer a'i atal. Nod hyn yw helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithiol a gwella gofal cleifion.

Dywedodd yr Athro Owen, "Gan fod poblogaethau byd-eang yn heneiddio, mae nifer cynyddol o bobl yn byw gyda mwy nag un cyflwr hirdymor, sy'n peri pryder iechyd mawr ledled y byd. Mae dulliau wedi'u targedu o reoli cyflyrau tymor hir lluosog yn elfen hanfodol ar gyfer cynllunio gofal iechyd nawr ac yn y dyfodol."

Am fwy o straeon ymchwil yn syth i'ch mewnflwch, cofrestrwch i dderbyn y bwletin.