Investigations into Cold Stored Platelets for Pre-Hospital Emergency Resuscitation
Crynodeb diwedd y prosiect
Prif Negeseuon
Crynodeb
Defnyddir platennau, y celloedd o fewn y gwaed sy'n helpu i ffurfio clotiau ac atal gwaedu, i drin achosion gwaedu mawr mewn ysbytai. Fodd bynnag, mae platennau yn anodd eu storio a'u cludo, gan fod angen eu hysgwyd a'u cadw'n gynnes ar hyn o bryd (20-24oC). Felly, nid ydynt ar gael i'w trallwyso cyn i glaf gyrraedd yr ysbyty, yn wahanol i gelloedd coch sydd eisoes yn cael eu cario mewn rhai cerbydau brys.
Mae ymchwil ddiweddar wedi canfod ei bod yn bosibl gwneud Platennau wedi'u Storio yn Oer (PSO), sy'n blatennau sy'n cael eu storio ar 4 i 6 gradd Celsius - tua'r un tymheredd ag oergell fwyd. Credir bod y PSO yn well am ffurfio clotiau a stopio gwaedu, er nad ydynt yn para mor hir yn y corff â'r platennau safonol. Nid oes angen ysgwyd y PSO, gan eu gwneud yn haws i'w storio ac mae hyn yn agor y posibilrwydd y bydd PSO yn cael eu cludo ochr yn ochr ag unedau celloedd coch mewn cerbydau brys.
Mae'r astudiaeth hon yn cymharu ansawdd PSO sydd wedi'i storio yn y cynwysyddion cludo a ddefnyddir i gario unedau celloedd coch yn erbyn PSO sydd wedi'u storio mewn oergell ysbyty. Canfu'r astudiaeth fod PSO sydd wedi'u storio mewn cynwysyddion cludo yn cynnal yr un ansawdd a gallu ceulo gwaed â'r rhai sy'n cael eu storio mewn oergelloedd ysbytai. Daeth i'r casgliad hwn ar ôl cynnal profion labordy amrywiol. Mae'r canlyniadau hyn yn helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer cynllunio treial clinigol i brofi PSO wrth drin cleifion trawma gwaedu cyn iddynt gyrraedd yr ysbyty.
Datgelodd cyfweliadau ac arolwg fod yr holl arbenigwyr yn cytuno bod PSO yn deilwng o ymchwiliad pellach a'u bod yn cynnig ffurfio clotiau cyflymach/gwell o'i gymharu â phlatennau tymheredd ystafell. Cytunodd yr arbenigwyr y gallai PSO fod yn addas i'w ddefnyddio mewn lleoliad cyn ysbyty ac yn yr ysbyty, ac y byddai eu defnydd yn gyffredinol yn dderbyniol mewn rhai grwpiau o gleifion fel cleifion trawma sydd â gwaedu heb ei reoli.
Prif Negeseuon
- Ar hyn o bryd, mae blychau cludo Awr Aur yn cael eu defnyddio gan wasanaeth ambiwlans awyr Cymru i gario dwy uned celloedd coch am hyd at 72 awr. Mae'r astudiaeth hon yn awgrymu y gellir storio PSO mewn blwch Awr Aur am hyd at 84 awr, ochr yn ochr â dwy uned celloedd coch. Mae hyn yn helpu i gefnogi cynllunio ar gyfer treialon clinigol ar y defnydd o PSO ar gyfer cleifion sy'n gwaedu cyn iddynt gyrraedd yr ysbyty.
- Cytunodd arbenigwyr fod PSO yn cynnig manteision posibl dros blatennau safonol a gall fod yn addas i'w defnyddio mewn lleoliad cyn ysbyty ac yn yr ysbyty mewn rhai grwpiau cleifion.