man_wearing_glasses_and_blue_shirt

Dr Benjamin Jelley

Arweinydd Arbenigedd ar gyfer Heneiddio

Mae Dr Jelley yn academydd clinigol sy'n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Phrifysgol Caerdydd.

Mae'n Geriatregydd sy'n arbenigo mewn meddygaeth strôc ac mae'n mwynhau’n arbennig yr her o sicrhau’r adferiad gorau posibl ar ôl strôc.

Mae ei ddiddordebau ymchwil felly yn ymwneud â maes meddygaeth strôc a'r cyfnod adsefydlu yn bennaf, ond mae hefyd wedi gweithio ar brosiectau sy'n edrych ar namau gwybyddol oherwydd y trawsgroesi â namau gwybyddol ar ôl strôc.

Mae’n uwch-ddarlithydd clinigol ac yn gyfarwyddwr y rhaglen MSc Geriatreg Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Trwy'r rôl hon, mae'n helpu ymchwilwyr y dyfodol i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau i ddod yn geriatregwyr academaidd y dyfodol.

Yn ei rôl gyda’r GIG, mae wedi goruchwylio datblygiad y portffolio ymchwil ar gyfer geriatreg yn yr adran ac mae wedi gweithio i annog ymchwilwyr newydd i ymgymryd â rôl Prif Ymchwilydd i gynyddu capasiti ymchwil. Y capasiti llai hwn o glinigwyr sydd â diddordeb mewn ymchwil yn y person hŷn sy'n flaenoriaeth i'w waith ac mae'n gobeithio cynyddu’r capasiti yng Nghymru i recriwtio cleifion hŷn i ymchwil glinigol berthnasol er mwyn helpu cenedlaethau o glinigwyr y dyfodol i ddarparu'r gofal gorau posibl ar gyfer y grŵp pwysig hwn o gleifion.

Cysylltwch â Ben

E-bost

Twitter