mynychwyr yn edrych ar bosteri

Lansio cynlluniau gwobrwyo personol newydd drwy Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

8 Mehefin

Mae ystod newydd  o gynlluniau gwobrwyo personol yn cael eu lansio trwy Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i hyrwyddo ymchwil ar draws sectorau a rhoi hwb i nifer yr  ymchwilwyr annibynnol sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru.

Mae'r cynlluniau wedi'u strwythuro ar draws dau brif faes - y Cynllun Gwobr Datblygu Ymchwilwyr (gydag ystod o lwybrau gwobrwyo sy'n cyd-fynd â'n  gweledigaeth  o gyfleoedd mwy datblygiadol i ymchwilwyr o Gymru),  a'r Cynlluniau Doethuriaeth, Camau Nesaf a Chymrodoriaeth Uwch. Bydd deiliaid gwobrau yn gallu cael mynediad at gyfleoedd datblygu personol ac ymchwilwyr drwy aelodaeth o'r Gyfadran drwy gydol eu dyfarniad.

Bydd y cynlluniau ar gael i bob ymchwilydd iechyd a gofal cymdeithasol, gyda cheisiadau o ansawdd uchel yn cael eu derbyn lle bynnag maent yn gweithio  (ac eithrio'r dyfarniadau Ymchwil Hyfforddiant ac Ymchwilydd sy'n Dod i'r Amlwg, sydd ond ar agor i'r rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau GIG neu ofal cymdeithasol).

Er bod yr union fanylion o sut  y bydd pob dyfarniad yn gweithio'n ymarferol yn dal i gael eu datblygu, bydd prosesau ar waith i sicrhau mynediad cyfartal i gynlluniau, gan gynnwys galwadau ac amlygu hysbysiadau sy'n targedu grwpiau gyda tan gynrychiolaeth o disgyblaethau / arbenigeddau.

Dywedodd yr Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Yn dilyn adolygiad ar y cyd o'r llwybrau gyrfa a hyfforddiant / datblygu ar gyfer ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol a gyhoeddwyd y llynedd, rydym yn cydnabod yr angen am fwy o gyllid mewn gyrfaoedd ymchwil ar gyfer pob disgyblaeth, ar draws pob sector, ac ym mhob cam o'r llwybr gyrfa ymchwil.

"Yn benodol, tynnodd yr adolygiad sylw at bwysigrwydd gweithio tuag at feithrin gallu ymchwil traws-sector a dull strategol cydlynol o wella llwybr gyrfaoedd ymchwil ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi lansiad y gyfres newydd hon o gynlluniau a fydd yn ategu ac yn cefnogi ein buddsoddiad presennol mewn cyfleoedd hyfforddi a datblygu gyrfa dros y degawd diwethaf."

Ychwanegodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Mae ein rhaglenni gwobrau personol yn ariannu rhai o'r cyfleoedd ymchwil mwyaf hanfodol bwysig ledled Cymru, a thrwy sicrhau bod y cynlluniau newydd hyn ar gael i bawb sy'n ymwneud ag ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol gallwn sicrhau ein bod yn cefnogi dull cyfannol, ar draws y system o wella iechyd a gofal."