Woman in lab coat holding test tubes

Lansio gwefan newydd i hyrwyddo gwerth gyrfaoedd academaidd clinigol

24 Hydref

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gymeradwyo gwefan newydd y Fforwm Hyfforddiant Academaidd Clinigol (CATF): CATCH, Clinical Academic Training & Careers Hub, sy’n lle hollgynhwysol i gael gafael ar wybodaeth am yrfaoedd academaidd.

Academyddion clinigol yn alinio ymchwil arloesol â gofal cleifion amser real

Mae academyddion clinigol yn hanfodol i berfformiad gwyddoniaeth ac ymchwil y DU, maes lle mae'r DU yn rhagori ar hyn o bryd, a 54% o'n hallbwn yn cael ei ystyried ymysg y gorau yn y byd.

Gellir gweld effaith hyn yn ein hymateb gwyddonol i bandemig y coronafeirws, o ddatblygu brechlynnau i therapïau a thechnolegau newydd, mae'r DU yn arwain yr ymdrech i adfer yn fyd-eang.

Mae academyddion clinigol yn rhan bwysig o'n gweithlu ymchwil ac os yw'r DU eisiau cynnal ei safle fel arweinydd byd-eang gwyddonol yna, fel y nodwyd ym Map Ffordd Ymchwil a Datblygu'r Llywodraeth, rhaid iddo "ddenu, cadw a datblygu'r bobl a'r timau talentog, amrywiol sy'n hanfodol i gyflawni ein gweledigaeth."

Mae nifer yr academyddion clinigol yn gostwng

Nid yw recriwtio i'r byd clinigol academaidd wedi cyfateb i gyfradd yr academyddion sy'n ymddeol, gan arwain at biblinell sy’n ‘gollwng' gweithlu hanfodol. Mae'n hanfodol, felly, bod y sector yn cydweithio i hyrwyddo'r cyfleoedd unigryw sydd ar gael drwy'r byd academaidd clinigol ac ysbrydoli unigolion dawnus i ddechrau ar yrfa academaidd.

Adnodd gyrfaoedd academaidd clinigol ar-lein newydd

Mae CATCH yn fenter sy'n gobeithio helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn. Cynhaliodd CATF, sy'n  gweithio i ddarparu cydgysylltiad strategol o lwybrau hyfforddi academaidd clinigol y DU, ymarfer cwmpasu a ddaeth i'r casgliad nad oedd unrhyw adnodd ar gael a oedd yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol ar gyfer hyfforddeion academaidd clinigol mewn un safle a bod prinder gwybodaeth ar gyfer hyfforddeion o gefndiroedd clinigol eraill er enghraifft deintyddiaeth a nyrsio.

Y gobaith yw y gall lansio CATCH ddechrau unioni hyn a helpu ymchwilwyr sydd ar gam cynnar yn eu gyrfaoedd ac unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol sydd â diddordeb yn y byd academaidd i lywio'r hyn a ystyrir yn aml yn llwybr gyrfa cymhleth.

Dywedodd Helen Grindell, Pennaeth Canolfan Gymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Rydym yn falch o gymeradwyo'r wefan newydd ac adnodd gyrfaoedd ar-lein CATCH. Rydym yn cefnogi aelodau dawnus o staff ledled Cymru sy'n cynorthwyo ac yn cyflenwi ymchwil sy'n newid bywydau ac yn annog eraill i ystyried hyn fel dewis gyrfa gwerth chweil.

"Bydd y wefan hollgynhwysol genedlaethol hon yn ei gwneud mor hawdd â phosibl i'n gweithwyr proffesiynol talentog gael gafael ar gyfoeth o wybodaeth am gyfuno gyrfa glinigol ac academaidd a datblygu eu gyrfaoedd ymhellach, wrth ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cleifion yng Nghymru."   

Arweiniwyd datblygiad CATCH gan yr Athro Jane Norman, Deon Cyfadran y Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bryste a Chadeirydd Pwyllgor Ymchwil y Cyngor Ysgolion Meddygol. Yn sôn am ei lansio, dywedodd yr Athro Norman:

"Rydym yn llawn cyffro i allu lansio CATCH, ein hadnodd gyrfaoedd academaidd clinigol ar-lein newydd. Mae hyn yn ganlyniad i ymgynghoriad helaeth ag ymchwilwyr clinigol ac addysgwyr ledled y DU. Ein gobaith yw y bydd yn arddangos yr amrywiaeth eang o opsiynau gyrfaol yn y byd academaidd clinigol, ar draws llawer o ddisgyblaethau proffesiynol, a'r set unigryw o heriau a gwobrau a ddaw yn eu sgil.

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda rhanddeiliaid a defnyddwyr i ddatblygu'r adnodd ymhellach a sicrhau nad yw dod o hyd i'r wybodaeth gywir yn cael ei ystyried yn rhwystr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu am yrfa academaidd glinigol."

Dywedodd yr Athro Paul Stewart, Cadeirydd Fforwm Hyfforddiant Academaidd Clinigol ac Is-lywydd (Clinigol) Academi'r Gwyddorau Meddygol:

"Mae'r DU yn enwog am ei gallu i ddenu a datblygu ymchwilwyr gwych ac mae'n hanfodol ein bod yn manteisio ar y gronfa dalent hon ac yn hyrwyddo gwerth y byd academaidd clinigol a'i fanteision i gymdeithas. Ni fydd adferiad o'r pandemig yn dasg hawdd a byddwn yn dibynnu ar safbwyntiau ffres y gweithlu newydd i helpu i ailadeiladu a gwella ein darpariaeth gofal iechyd a sbarduno gwelliannau mewn gofal cleifion.

"Mae CATCH yn adnodd newydd gwych i unigolion sydd â diddordeb mewn gyrfa academaidd glinigol. Rwy'n gobeithio y bydd y rhai sy'n ymweld â'r safle yn manteisio ar y cyfleoedd cyffrous a'r dilyniant gyrfa sydd ar gael yn y byd academaidd clinigol."

Ymdrech gydweithredol

Bydd ysbrydoli a datblygu gweithlu academaidd clinigol y dyfodol yn gofyn am gydweithio ar draws sefydliadau, o brifysgolion, ymddiriedolaethau'r GIG, cyrff ariannu, elusennau ymchwil, y Llywodraeth a llawer mwy. Roedd datblygu CATCH yn ymdrech gydweithredol ac mae'r wefan wedi’i chymeradwyo gan y sefydliadau canlynol:

Academi Colegau Brenhinol Meddygol

Academi'r Gwyddorau Meddygol

Cymdeithas Elusennau Ymchwil Feddygol

Cymdeithas Feddygol Prydain

Pwyllgor Staff Academaidd Meddygol (BMA)

Cynhadledd Deoniaid Meddygol Ôl-raddedig

Cyngor Deoniaid Iechyd

Cyngor Ysgolion Deintyddol

Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Health Education England

Cyngor Ymchwil Feddygol

Cyngor Ysgolion Meddygol

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd

NHS Education for Scotland

Northern Ireland Medical and Dental Training Agency

University Hospital Association

Ymddiriedolaeth Wellcome