Darlithydd Epidemioleg Clefydau Heintus / Gwyddoniaeth Ymddygiadol Clefydau Heintus

Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn dymuno penodi Darlithydd Epidemioleg Clefydau Heintus / Gwyddoniaeth Ymddygiadol Clefydau Heintus i ymuno â’r Uned Firoleg Drosi newydd sy’n rhan o’r Ganolfan Treialon Ymchwil, yr Is-adran Heintiau ac Imiwnedd a’r Is-adran Canser a Geneteg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn deinamig sy'n awyddus i ddatblygu rhaglen ymchwil annibynnol fydd yn cyfrannu at ymchwil firoleg sylfaenol a chymhwysol, gan ganolbwyntio'n bennaf ar glefydau heintus iechyd cyhoeddus cymhwysol. Bydd ganddo brofiad o ymchwil ryngddisgyblaethol ac arbenigedd methodolegol mewn un neu ragor o'r meysydd canlynol: epidemioleg, treialon clinigol, newid ymddygiad, dulliau ymchwil ansoddol a/neu weithio gyda phoblogaethau ymylol.
 
Bydd disgwyl i ddeiliaid y swydd ddatblygu cysylltiadau trawsbynciol er mwyn cydweithio ar draws themâu ymchwil perthnasol ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ddatblygu cynigion ymchwil cystadleuol a chynyddu capasiti ymchwil i gefnogi ymchwil ym maes Firoleg – sef cryfder allweddol fydd yn derbyn cymorth yn sgil yr Uned newydd hon. Bydd deiliaid y swydd yn mynd ati i gyfrannu at gyflawni'r nodau a'r amcanion a amlygir yn y ddogfen hon.

Bydd y rhan fwyaf o amser yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei warchod at ddibenion ymchwil, ond at ddibenion datblygu gyrfaol rydym yn rhagweld y bydd yn cyfrannu at yr Ysgol drwy addysgu dan arweiniad ymchwil – er enghraifft, arwain prosiectau myfyrwyr ar gyfer israddedigion, myfyrwyr MSc a myfyrwyr ar flwyddyn o hyfforddiant proffesiynol (PTY). 

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus enw da cynyddol yn genedlaethol/rhyngwladol, hanes rhagorol o gyhoeddiadau o safon, yn ogystal â’r brwdfrydedd a’r awydd i chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wella enw da'r Ysgol am ymchwil sy'n cael effaith ac ymgysylltu â'r gymuned. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos tystiolaeth o'i allu i gystadlu'n llwyddiannus am gyllid ymchwil, yn ogystal â’i allu i feithrin tîm ymchwil sy'n cyd-fynd â disgwyliadau’r swydd.

Contract type: Hon am 5 mlynedd yn y lle cyntaf
Hours: Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Salary: Gradd 7 £51,039 - £55,755 y flwyddyn
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd
Job reference:
19911BR
Closing date: