Llawlyfr newydd yn dangos Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd ar waith

4 Mehefin

Mae llawlyfr newydd wedi’i gyhoeddi sy’n rhannu straeon am sefydliadau sydd wedi rhoi Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd ar brawf ac ar waith yn eu hymchwil, fel rhan o raglen beilot.

Y llynedd, gwnaeth partneriaeth pedair gwlad, gan gynnwys Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ryddhau set o Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd mewn ymchwil, â’r nod o helpu ymchwilwyr a sefydliadau i wella ansawdd a chysonder cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Bu’r safonau’n destun ymgynghoriad cyhoeddus a chyfnod peilot yn cynnwys rhwydwaith o fwy na 400 o unigolion cofrestredig. Hefyd, rhoddwyd y safonau ar brawf mewn rhaglen a barodd am flwyddyn.

Fel rhan o’r rhaglen beilot hon, dewiswyd 10 prosiect i roi’r safonau drafft ar brawf ac ar waith yn ystod 2018-2019, gan ddarparu adborth ac awgrymiadau. Roedd y prosiectau a ddewiswyd yn rhychwantu sefydliadau, rhanbarthau ac amgylcheddau ymchwil ac roedden nhw’n amrywiol o ran eu maint, profiad o gynnwys y cyhoedd a ffocws ymchwil.

Nawr, mae llawlyfr newydd wedi’i lansio sy’n rhannu profiadau’r prosiectau hyn wrth roi’r safonau ar waith. Diben y straeon ydy rhoi cipolwg ar y gwahanol ffyrdd o roi’r safonau ar waith a’u hintegreiddio mewn ymchwil a oedd yn rhan o’r drefn arferol, neu fel rhan o brosiectau arbennig.

Yn ogystal â manylu ar gyd-destun pob prosiect, mae pob stori’n rhoi manylion am sut y gwnaeth y prosiect ddefnyddio’r safonau, pa safonau roedden nhw’n canolbwyntio arnyn nhw, pa effaith y cafodd y safonau ar eu deilliannau, a myfyrdodau ynglŷn â chynnwys y cyhoedd yn fwy eang.

Mewn cyd-destun hollol wahanol, defnyddiodd y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia yng Nghymru y safon ‘Cydweithio’ i helpu i ddatblygu canllaw i wirfoddolwyr yn manylu ar nodau a phwrpas y Ganolfan yn ogystal â darparu gwybodaeth ymarferol am fod yn aelod lleyg. Mae adborth wedi awgrymu y gallai’r canllaw hwn ddod yn rhan ddefnyddiol o raglen gynefino a chyflwyno i’r Ganolfan.

Meddai Dr Charles Musselwhite, Cyd-gyfarwyddwr yn CADR: “Roedd CADR yn falch o gymryd rhan mewn helpu i siapio Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd. Mae cynnwys ac ymgysylltu’n ganolog i’n holl weithgarwch ymchwil a lledaenu yn CADR ac mae angen i ni gael ffordd systematig o dyfu, monitro a gwerthuso ein gweithgarwch cynnwys a gwneud yn siŵr ein bod ni’n rhannu ac yn defnyddio arfer gorau.

“O ganlyniad i fod yn rhan o’r cynllun peilot, buon ni’n gweithio gyda’n grŵp aelodau lleyg i ddatblygu llawlyfr. Roedd hwn yn edrych ar gymryd rhan mewn gweithgarwch ymchwil sy’n helpu pobl i gymryd rhan, mewn ffordd y maen nhw eisiau gallu ei wneud, yn yr ymchwil rydyn ni’n ei gwneud. Gwnaethon ni hefyd wella ein cyfathrebu, gan edrych ar feddalwedd hygyrch ar-lein i gynyddu nifer y bobl ledled Cymru a’r DU a allai gymryd rhan yn ein hymchwil heb orfod teithio’n bell i wneud hynny.

“Yn olaf, roedden ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n cyrraedd amrywiaeth eang o bobl hŷn i gymryd rhan ac ymgysylltu â’n hymchwil, ac fe helpodd y safonau ni i fyfyrio ynglŷn â chyfathrebu â grŵp ehangach o bobl, gan gynnwys pobl ag anableddau, pobl sy’n bwy â dementia a phobl y mae dementia’n effeithio arnyn nhw.”

Ym Mhrifysgol Glasgow, darparodd y safonau resymeg ar gyfer sicrhau bod grŵp bach o fyfyrwyr a oedd yn dilyn rhaglenni PhD yn cofleidio cynnwys y cyhoedd, hyd yn oed os oedden nhw’n newydd i’r ffordd hon o weithio. O ganlyniad i hyn, fe fydd gan bob un o’r myfyrwyr hyn bennod neu adran o’u thesis PhD ar rôl a chyfraniad eu partner cynnwys y cyhoedd, a byddan nhw hefyd yn cydysgrifennu papur ymchwil gyda’r partner hwnnw i’w gyhoeddi mewn cyfnodolyn ymchwil.

Er mai dim ond dwy enghraifft sydd yma, mae’r llawlyfr o straeon am roi’r safonau ar waith yn dangos sut y gellid eu defnyddio ar gyfer ymchwil ar draws llawer o wahanol gyd-destunau a sefydliadau.