Dr Ceri Battle

Llongyfarchiadau i’r Athro Ceri Battle

Mae ymchwilydd arloesol wedi cael ei longyfarch ar ddod yn Athro Anrhydeddus Trawma a Gofal Brys gyda Phrifysgol Abertawe – y fenyw gyntaf yng Nghymru, a'r bedwaredd yn unig yn y DU, i gyflawni hynny.

Dywedodd yr Athro Ceri Battle, sydd â Chymrodoriaeth Ymchwil Iechyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n ei galluogi i ganolbwyntio ar ei gwaith trawma i’r frest arbenigol, ei bod yn 'anrhydedd' derbyn yr anrhydedd, ar ôl gweithio yn y byd academaidd clinigol ac fel y prif ymchwilydd ar dri chynllun treialu cenedlaethol yn ymwneud ag anafiadau i'r frest.

Mae un, o'r enw STUMBL2, yn gwerthuso teclyn diagnostig ar sail sgôr a grëwyd gan yr Athro Battle i nodi cleifion sydd fwyaf mewn perygl o ddatblygu cymhlethdodau, ac sydd bellach yn cael ei ddefnyddio ledled y byd.

Dywedodd yr Athro Battle:

Er fy mod i’n gwneud gwaith academaidd yn y brifysgol, mae'n gadair athro anrhydeddus gan fy mod yn cael fy nghyflogi gan Ysbyty Treforys fel ffisiotherapydd.

Rwyf wedi cael cytundeb anrhydeddus gyda'r brifysgol ers rhai blynyddoedd. Dechreuais fel cymrawd ymchwil yna yn athro cyswllt. Yna pan ddaeth hi'n amser i ailymgeisio, gofynnon nhw i mi wneud cais am y gadair athro.

Roedd proses penodi lawn ac roedd yn rhaid i fy nghais a geirdaon fynd o flaen panel.

Er mwyn cael y penodiad, roedd yn rhaid i mi daro meini prawf penodol. Mae'r rhain yn cynnwys mwy na £1.5 miliwn mewn grantiau a thua 100 o gyhoeddiadau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid.

Ond nid ariannu a chyhoeddiadau yn unig sy'n bwysig. Mae llawer ohono yn ymwneud â’r effaith ryngwladol y mae eich gwaith yn ei gael, felly roedd fy ngwaith ar y Sgôr STUMBL yn rhan fawr o fy nghais."

Mae'n anrhydedd - nid dim ond y penodiad ei hun, a bod y fenyw gyntaf yng Nghymru i'w gyflawni, ond, gobeithio, bod yn esiampl da i academyddion clinigol uchelgeisiol eraill."

Ychwanegodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Ar ran y gymuned ymchwil yma yng Nghymru, rwy'n falch iawn o longyfarch Ceri am ei gwaith rhagorol a'i hymrwymiad diflino a arweiniodd at gael y Gadair Athro Anrhydeddus haeddiannol iawn gan Brifysgol Abertawe. Rydym yn falch o gefnogi Ceri a  llawer o rai eraill tebyg iddi drwy ariannu ymchwil, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniadau ei hastudiaethau a'i diddordebau arbenigol ym maes trawma i'r frest."

Mae'r Athro Battle yn arweinydd cyd-arbenigedd ar gyfer ymchwil trawma a gofal brys yng Nghymru, ac mae'n cyd-arwain y Cyngor Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yng Nghymru.

Mae hi'n brif ymchwilydd ar STUMBL, ELECT a CoPACT – pob un yn astudiaeth trawma i’r frest sy'n cael eu cynnal ledled y DU.