Llunio Dyfodol Prydau Ysgol a helpu i wella Iechyd a Lles Plant

Ydych chi'n rhiant neu'n gofalu am blentyn oedran ysgol gynradd yng Nghymru? Fel rhan o brosiect tair blynedd mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn eich gwahodd i ymuno â DECIPHer fel cyfrannydd cyhoeddus i helpu i lunio ymchwil hanfodol gyda'r nod o wella Prydau Ysgol am Ddim i Bawb ar gyfer pob plentyn oedran ysgol gynradd.

Bydd DECIPHer yn archwilio sut mae'r system prydau ysgol yn gweithio, yn nodi meysydd i'w gwella ac yn sicrhau bod yr ymchwil yn adlewyrchu profiadau bywyd go iawn. Gallai eich cyfranogiad wneud gwahaniaeth parhaol i ddeiet, iechyd a lles plant ledled Cymru.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?

Byddai rhywfaint o brofiad o gymryd rhan mewn ymchwil yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Bydd aelodau o'r cyhoedd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau trwy gydol oes y prosiect. Gall y rhain gynnwys:

  • Mynychu cyfarfodydd tîm achlysurol (ar-lein neu yn bersonol) i gynnig eich barn a helpu i lywio'r ymchwil
  • Adolygu a rhoi adborth ar ddogfennau, megis taflenni gwybodaeth, arolygon neu adroddiadau
  • Helpu i lunio sut mae DECIPHer yn gofyn cwestiynau i blant a theuluoedd mewn ffordd glir a pharchus
  • Rhannu syniadau ar sut  y gall DECIPHer wneud yn siŵr bod yr ymchwil yn hygyrch ac yn berthnasol i ystod eang o deuluoedd.

Cefnogi sut mae DECIPHer yn rhannu canfyddiadau gydag ysgolion, teuluoedd a'r cyhoedd ehangach (os o ddiddordeb)

Am faint fydd fy angen ar y prosiect?

Gofynnir i gyfranwyr cyhoeddus fynychu hyd at chwe sesiwn y flwyddyn am gyfnod y prosiect tair blynedd, gyda phob sesiwn yn para tua dwy awr. Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys cyfarfodydd, cyfleoedd adborth a gweithgareddau cynllunio.

Beth yw rhai o'r buddion i mi?
  • Ennill profiad gwerthfawr o weithio gydag ymchwilwyr, arweinwyr polisi a gweithwyr addysg proffesiynol
  • Profiad o adolygu dogfennau astudiaeth i sicrhau eu bod yn glir ac yn hygyrch
  • Cefnogi gweithgareddau lledaenu, megis siarad mewn digwyddiadau neu gyd-awduro cyhoeddiadau
  • Cydweithio â chyfranwyr cyhoeddus eraill
  • Meithrin hyder a sgiliau mewn siarad cyhoeddus a chyfathrebu ymchwil
  • Chwarae rôl allweddol wrth wneud y prosiect yn berthnasol, yn gynhwysol ac wedi'i seilio ar brofiad bywyd go iawn
Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Darperir cefnogaeth ac arweiniad llawn drwy gydol y prosiect.

Byddwch yn cael cynnig: 

  • Tâl am gostau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol
  • Taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth). 

Edrychwch ar ein canllawiau i gael rhagor o wybodaeth am hyn. 

Os ydych chi'n derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth helpu ag Ymchwil.  

Llenwch y ffurflen isod

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Face to face and online

Sefydliad Lletyol:
Prifysgol Caerdydd/DECIPHer

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm